RHAN 1Rhagarweiniad
DehongliI13
1
Yn y Rheoliadau hyn—
mae “adeiladu” (“construct”) yn cynnwys gosod;
mae i “amaethyddiaeth” yr ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 19473;
ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;
F3ystyr “CNC” (“NRW”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru;
mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;
mae i “cwrs dŵr” yr ystyr a roddir i “watercourse” yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;
F4ystyr “cyfarpar taenu manwl” (“precision spreading equipment”) yw system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd;
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024;.
ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 6(1)(c);
F2ystyr “cynllun rheoli maethynnau uwch” (“enhanced nutrient management plan”) yw cynllun a lunnir yn unol â pharagraffau 6 a 7 o Atodlen 1A;
ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;
ystyr “da byw sy’n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;
ystyr “daliad” (“holding”) yw’r holl dir a’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’w defnyddio gan y meddiannydd ac a ddefnyddir i dyfu cnydau mewn pridd neu i fagu da byw at ddibenion amaethyddol;
F5ystyr “daliad glaswelltir cymhwysol” (“qualifying grassland holding”) yw daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, pan fo 80% neu fwy o ardal amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;
mae i “dyfroedd a reolir” yr ystyr a roddir i “controlled waters” yn adran 104 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991
ystyr “elifiant silwair” (“silage effluent”) yw elifiant o silwair;
ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;
ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;
ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
F1mae i “map mynegai PPN” (“NVZ index map”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2;
ystyr “porfa” (“grass”) yw—
- a
glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod o lai na phedair blynedd),
- b
sy’n bodoli rhwng hau ac aredig y borfa, ac
- c
mae’n cynnwys cnydau yr heuwyd porfa oddi tanynt,
ond nid yw’n cynnwys glaswelltir sydd â 50 % neu ragor o feillion;
- a
ystyr “pridd tenau” (“shallow soil”) yw pridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;
ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy’n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall sy’n cynnwys—
- a
yn yr haen hyd at ddyfnder o 40cm—
- i
mwy na 50 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,
- ii
llai na 18 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a
- iii
llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig, a
- i
- b
yn yr haen sydd rhwng 40 a 80 cm o ddyfnder—
- i
mwy na 70 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,
- ii
llai na 15 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a
- iii
llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig;
- i
- a
ystyr “pydew derbyn” (“reception pit”) yw pydew a ddefnyddir i gasglu slyri cyn ei drosglwyddo i danc storio slyri neu i gasglu slyri sy’n cael ei ollwng o danc o’r fath;
ystyr “seilo” (“silo”) yw adeiladwaith a ddefnyddir i wneud neu i storio silwair;
mae “silwair” (“silage”) yn cynnwys cnwd sy’n cael ei wneud yn silwair;
ystyr “slyri” (“slurry”) yw mater hylifol neu led hylifol a’i gynnwys yw—
- a
carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra maent ar fuarth neu mewn adeilad (gan gynnwys da byw sy’n cael eu cadw mewn corlannau sglodion coed), neu
- b
cymysgedd sy’n cynnwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf carthion da byw, gwasarn da byw, dŵr glaw a golchion o adeilad neu fuarth a ddefnyddir gan dda byw,
ac o ddwyster sy’n caniatáu iddo gael ei bwmpio neu ei ollwng drwy ddisgyrchiant ar unrhyw gymal yn y broses o’i drin;
- a
mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i’r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw’n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;
ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sy’n deillio o anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol, ac mae’n cynnwys tail da byw;
mae “tanc storio slyri” (“slurry storage tank”) yn cynnwys lagŵn, pydew (ac eithrio pydew derbyn) neu dŵr sy’n cael ei ddefnyddio i storio slyri;
ystyr “tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir—
- a
y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º (3 gradd),
- b
nad oes ynddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio), ac
- c
sydd o leiaf 50 metr i ffwrdd o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy’n arwain at gwrs dŵr.
- a
2
Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at system storio slyri yn cynnwys tanc storio slyri ac—
a
unrhyw bydew derbyn ac unrhyw danc elifiant sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, a
b
unrhyw sianelau a phibellau sy’n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, ag unrhyw bydew derbyn neu ag unrhyw danc elifiant.
3
Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn i seilo neu danc storio slyri gydymffurfio â Safon Brydeinig (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) os yw’r seilo neu’r tanc yn cydymffurfio â safon neu â manyleb sy’n darparu lefel gyfatebol o warchodaeth a pherfformiad ac sy’n cael ei chydnabod i’w defnyddio mewn Aelod-wladwriaeth, yn Ynys yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu Dwrci.