RHAN 7Cyfrifiadau a chofnodion

Cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliadI136

1

Cyn F2y dyddiad perthnasol bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—

a

nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y F3cyfnod o 12 mis blaenorol , a

b

nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.

2

Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.

3

Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—

a

meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, neu

b

yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

4

Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.

5

Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.

F16

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—

    1. a

      ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;

    2. b

      ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—

      1. i

        y cyfnod o 12 mis cyntaf at y dibenion hyn yw F431 Hydref 2023 i 30 Hydref 2024, a

      2. ii

        wedi hynny, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar F531 Hydref ac sy’n gorffen ar 30 Hydref cyn y dyddiad perthnasol;

    ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—

    1. a

      ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;

    2. b

      ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, F6rhodder “28 Chwefror 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 28 Chwefror.