RHAN 2Cyfyngu ar ddodi tail organig
Dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliadI14
1
Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod F1unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
2
Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.
3
Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.
F24
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .