45.—(1) Os ceir cynigion ar gyfer cyfres amgen o fesurau i sicrhau’r canlyniadau yn rheoliad 44(1) o fewn 18 mis i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a fyddai’r mesurau hynny’n sicrhau’r canlyniadau yn fwy effeithiol na’r mesurau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddai cynigion a gyflwynwyd o dan baragraff (1) yn fwy effeithiol i sicrhau’r canlyniadau yn rheoliad 44(1), rhaid iddynt gyhoeddi datganiad o fewn dwy flynedd i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn, gan esbonio pa gamau a gymerir.