Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn
7.—(1) Cyn taenu tail organig, rhaid i’r meddiannydd, ar bob achlysur, gyfrifo maint y nitrogen o’r tail hwnnw sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.
(2) Rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu, gofnodi—
(a)y rhan y taenir y tail organig arni,
(b)y maint o dail organig sydd i’w daenu,
(c)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis),
(d)y math o dail organig,
(e)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo, ac
(f)cyfanswm y nitrogen sy’n debygol o fod ar gael, o’r tail organig y bwriedir ei daenu, i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.
(3) Cyn taenu gwrtaith nitrogen, rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a)y maint sydd ei angen, a
(b)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis).