9.—(1) Rhaid i’r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw, at ddibenion rheoliad 8, drwy—
(a)defnyddio’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 3, neu
(b)samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
(2) Unwaith y bydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw wedi ei ganfod, rhagdybir y canrannau canlynol er mwyn cadarnhau maint y nitrogen yn y tail da byw sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.
Math o dail da byw | Maint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo |
---|---|
Slyri gwartheg | 40 % |
Slyri moch | 50 % |
Tail dofednod | 30 % |
Tail da byw eraill | 10 % |
(3) Mewn perthynas â phob tail organig arall, rhaid i’r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, at ddibenion rheoliad 8—
(a)drwy gyfeirio at ddadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,
(b)i’r graddau nad oes gwybodaeth o’r fath ar gael, drwy gyfeirio at y gwerthoedd a roddir yn y Canllawiau Rheoli Maethynnau (RB 209)(1), neu
(c)drwy samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
https://ahdb.org.uk/RB209. Gellir cael copi oddi wrth y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.