xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CCyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig

RHAN 2LL+CSamplu a dadansoddi tail organig

Slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arallLL+C

1.—(1O ran slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall, rhaid cymryd o leiaf bum sampl, pob un ohonynt yn 2 litr.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid cymryd y pum sampl allan o lestr, ac—

(a)os yw’n rhesymol ymarferol, rhaid cymysgu’r slyri’n drwyadl cyn cymryd y samplau, a

(b)rhaid cymryd pob sampl o le gwahanol.

(3Os defnyddir tancer sydd â falf addas arno ar gyfer taenu, caniateir i’r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid cymryd pob sampl fesul ysbaid yn ystod y taenu.

(4Pa un a gymerwyd y samplau fel y disgrifir yn is-baragraff (2) neu (3), rhaid arllwys y pum sampl i mewn i gynhwysydd mwy, eu troi’n drwyadl, a rhaid cymryd sampl 2 litr allan o’r cynhwysydd hwnnw ac arllwys y sampl honno i gynhwysydd glân, llai o faint.

(5Yna, rhaid anfon y sampl 2 litr a baratowyd yn unol ag is-baragraff (4) i’w dadansoddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)