Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

7.  Os oes gan y seilo furiau cynnal—LL+C

(a)rhaid i’r muriau cynnal allu gwrthsefyll lleiafswm o lwythi mur sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 15.6 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 22: 2003(1),

(b)ni chaniateir i’r seilo bod wedi ei lwytho ar unrhyw adeg i ddyfnder sydd uwchlaw’r dyfnder eithaf sy’n gyson â’r rhagdybiaeth ddyluniol a wnaed o ran llwythi y muriau cynnal, ac

(c)rhaid arddangos hysbysiadau ar y muriau cynnal yn unol â pharagraff 18 o’r cod ymarfer hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

(1)

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2003. ISBN 0-580-38654-6.