xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rheoliad 25

ATODLEN 6LL+CY gofynion ar gyfer systemau storio slyri

1.  Mae’r gofynion sydd i’w bodloni mewn perthynas â system storio slyri fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

2.  Rhaid i sylfaen y tanc storio slyri, sylfaen a muriau unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

3.  Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri, unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod wedi eu diogelu rhag cyrydiad yn unol â pharagraff 7 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993(1).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

4.  Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri ac unrhyw bydew derbyn allu gwrthsefyll llwythi nodweddiadol sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 5 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

5.—(1Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—LL+C

(a)yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i danc storio slyri) sy’n debygol o gael ei gynhyrchu yn y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod, neu

(b)swm llai y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.

(2Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o’r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i’r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

6.  Yn achos tanciau storio slyri sydd â muriau wedi eu gwneud o bridd, rhaid i’r tanc fod ag o leiaf 750 mm o fwrdd rhydd, a 300 mm o fwrdd rhydd ym mhob achos arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

7.  Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r tanc storio slyri, nac unrhyw danc elifiant na sianelau na phydew derbyn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai slyri fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc oni chymerir rhagofalon y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig eu bod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

8.  Rhaid i’r tanc storio slyri ac unrhyw danc elifiant, sianelau, pibellau a phydew derbyn fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 4 am o leiaf 20 mlynedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

9.  Os nad yw muriau’r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—LL+C

(a)ymestyn y tu hwnt i’r muriau;

(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy’n dianc o’r tanc;

(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r slyri o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os oes pibell ddraenio wedi ei gosod yn y tanc storio slyri neu yn unrhyw danc elifiant neu bydew derbyn, rhaid bod dwy falf mewn cyfres ar y bibell a bod pellter o 1 metr o leiaf rhwng un falf a’r llall.LL+C

(2Rhaid i bob falf allu cau llif y slyri drwy’r bibell a rhaid eu cadw wedi eu cau ac wedi eu cloi yn y safle hwnnw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

(3Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thanc storio slyri sy’n draenio drwy’r bibell i danc storio slyri arall os yw’r tanc arall yn dal yr un faint neu fwy neu os yw topiau’r tanciau ar yr un lefel â’i gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

(1)

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 1993. ISBN 0-580-22053-2.