xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
5.—(1) Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—LL+C
(a)yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i danc storio slyri) sy’n debygol o gael ei gynhyrchu yn y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod, neu
(b)swm llai y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.
(2) Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o’r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i’r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)