9. Os nad yw muriau’r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—LL+C
(a)ymestyn y tu hwnt i’r muriau;
(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy’n dianc o’r tanc;
(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r slyri o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)