2021 Rhif 813 (Cy. 192)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 19831 ac adrannau 22(2)(a) ac (c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3:

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2021.

Diwygiad i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20072

Yn nhestun Cymraeg rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20074, o flaen “mae “addysg”” mewnosoder rhif paragraff “(1)”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

3

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20175 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

4

Yn rheoliad 46 (myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieni)—

a

ym mharagraff (1) yn lle “(“A” yn y paragraff hwn)” rhodder “(“A” yn y rheoliad hwn)”;

b

ar y diwedd mewnosoder—

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo A yn preswylio yng nghartref rhieni A am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws, caiff A ei drin fel pe na bai A yn preswylio yng nghartref rhieni A.

4

Nid yw paragraff (3) yn gymwys pan fo A yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn ei drin fel pe bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.

5

Yn rheoliad 52 (dehongli Rhan 6), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

fa

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

6

Yn rheoliadau 49(2)(h) a 111(2)(e) yn lle “y person yn dod yn berson” rhodder “y myfyriwr yn dod yn berson”.

7

Yn Atodlen 1—

a

yn nhestun Cymraeg paragraff 1(5)(b) yn lle’r atalnod llawn rhodder “; ac”;

b

yn nhestun Saesneg paragraff 11A(a) yn lle “agreements” rhodder “agreement”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

8

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20186 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

9

Yn rheoliad 86 (myfyrwyr sy’n byw mewn mwy nag un lleoliad), ar y diwedd mewnosoder—

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo myfyriwr cymwys yn byw gartref am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws, caiff y myfyriwr cymwys ei drin fel pe bai’n byw yn y categori o leoliad y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’r myfyriwr cymwys wedi bod yn byw ynddo oni bai am y rheswm hwnnw.

5

Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys wedi gofyn am gael ei drin fel pe bai’n byw gartref.

10

Yn lle “y person yn dod yn berson” rhodder “y myfyriwr yn dod yn berson” lle y mae’n digwydd yn—

a

rheoliad 80(2)(b)(v);

b

rheoliad 81(3)(b)(iv);

c

Atodlen 4, paragraff 14(3)(b)(iv); a

d

Atodlen 5, paragraff 4(2)(e).

Diwygiad i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 201911

Yn nhestun Cymraeg Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 20197, ym mharagraff 7A(1)(d) yn lle “fer” rhodder “fel”.

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 sy’n ymwneud â swm y cymorth cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys drwy gyfeirio at y man lle y mae’n byw yn ystod y chwarteri y mae’r cymorth hwnnw yn daladwy ynddynt. Mae’r diwygiadau yn darparu bod myfyriwr cymwys sy’n byw gyda’i rieni am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y byddai wedi bod yn byw ynddo oni bai am y rheswm hwnnw, oni bai bod y myfyriwr yn gofyn fel arall.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2007, Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019.