Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20174
Yn rheoliad 46 (myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieni)—
a
ym mharagraff (1) yn lle “(“A” yn y paragraff hwn)” rhodder “(“A” yn y rheoliad hwn)”;
b
ar y diwedd mewnosoder—
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo A yn preswylio yng nghartref rhieni A am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws, caiff A ei drin fel pe na bai A yn preswylio yng nghartref rhieni A.
4
Nid yw paragraff (3) yn gymwys pan fo A yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn ei drin fel pe bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.