xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mae’r Ddeddf honno’n diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau mewn deddfwriaeth sylfaenol i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.