- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1)) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(1)—
(a)o dan bennawd “Cam 2”, ar ôl “coronafeirws” mewnosoder “, gan gynnwys gwybodaeth i’r rheini sy’n gweithio yn y fangre ynglŷn â’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a nodir o dan yr asesiad a gynhelir o dan Gam 1, a’r mesurau sydd i’w cymryd o dan Gam 3 a Cham 4 i leihau’r risg”;
(b)o dan bennawd “Cam 3”—
(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “bersonau” mewnosoder “o dan do”;
(ii)yn is-baragraff (b), ar ôl “aros” rhodder “o dan do”;
(c)o dan bennawd “Cam 4”—
(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “yn agos at ei gilydd” rhodder “yn y fangre”;
(ii)yn is-baragraff (c), yn y geiriau o flaen paragraff (i)—
(aa)yn lle “agos wyneb yn wyneb” rhodder “corfforol agos”;
(bb)ar ôl “fangre” mewnosoder “, yn benodol rhyngweithio wyneb yn wyneb”.
(3) Yn rheoliad 17(4A)—
(a)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “Nid yw is-baragraffau (b)(i) a (ii) o baragraff (1)” rhodder “Nid yw paragraff (1)(b)”;
(b)yn is-baragraff (b), hepgorer “sy’n cael ei gynnal yn yr awyr agored”.
(4) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 1—
(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad o dan do mewn annedd breifat sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai—
(a)bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, neu
(b)pan na fo’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, fod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd.”;
(ii)hepgorer is-baragraff (1A);
(iii)yn is-baragraff (2)—
(aa)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “(1A)” rhodder “(1)”;
(bb)ym mharagraff (a), yn lle “30 o aelwydydd” rhodder “6 aelwyd”;
(iv)hepgorer is-baragraff (5)(d);
(b)ym mharagraff 2—
(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd o dan do ac eithrio mewn annedd breifat neu mewn llety gwyliau neu lety teithio sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.”;
(ii)yn lle is-baragraff (1A) rhodder—
“(1A) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd o dan do mewn llety gwyliau neu lety teithio sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai—
(a)bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, neu
(b)pan na fo’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, fod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd.”;
(iii)hepgorer is-baragraff (1B);
(iv)yn is-baragraff (2)—
(aa)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “(1B)” rhodder “(1A)”;
(bb)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu”;
(v)yn is-baragraff (5)—
(aa)yn lle paragraff (i) rhodder—
“(i)cymryd rhan mewn cynulliad neu ddigwyddiad rheoleiddiedig sy’n digwydd i unrhyw raddau o dan do ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio, yn mynd i gynulliad neu ddigwyddiad o’r fath neu’n hwyluso cynulliad neu ddigwyddiad o’r fath;”;
(bb)hepgorer paragraffau (j) a (k);
(cc)ym mharagraff (ka)—
(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “blant ysgol gynradd” rhodder “ddim mwy na 30 o blant”;
(ii)yn lle paragraff (i) rhodder—
“(i)cynulliad rheoleiddiedig er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);”;
(vi)hepgorer is-baragraff (6);
(c)ym mharagraff 4—
(i)yn is-baragraff (1)—
(aa)ym mharagraff (a), ar y diwedd mewnosoder “a”;
(bb)hepgorer paragraff (b), gan gynnwys yr “ac” ar y diwedd;
(cc)ym mharagraff (c), ar y dechrau mewnosoder “pan fo’r digwyddiad yn cael ei gynnal i unrhyw raddau o dan do,”;
(ii)yn is-baragraff (1A)—
(aa)ym mharagraff (a), yn lle “10000” rhodder “1000”;
(bb)ym mharagraff (b), yn lle “4000” rhodder “200”;
(iii)yn is-baragraff (2)—
(aa)hepgorer paragraffau (f) ac (ga);
(bb)ym mharagraff (k), yn lle “lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.” rhodder
“—
(i)lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol,
(ii)lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, neu
(iii)pan na fo’r holl bersonau sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd.”;
(d)ym mharagraff 7(1), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “, 10 neu 11” rhodder “neu 10”;
(e)hepgorer paragraff 11.
O.S. 2020/1609 (Cy. 335) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1610 (Cy. 336), O.S. 2020/1623 (Cy. 340), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/57 (Cy. 13), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/103 (Cy. 28), O.S. 2021/172 (Cy. 40), O.S. 2021/210 (Cy. 52), O.S. 2021/307 (Cy. 79), O.S. 2021/413 (Cy. 133), O.S. 2021/502 (Cy. 150), O.S. 2021/542 (Cy. 154), O.S. 2021/583 (Cy. 160), O.S. 2021/668 (Cy. 169), O.S. 2021/686 (Cy. 172) ac O.S. 2021/722 (Cy. 183).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: