xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 863 (Cy. 202)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021

Gwnaed

am 3.49 p.m. ar 16 Gorffennaf 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 6.00 p.m. ar 16 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 19 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 19 Gorffennaf 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020LL+C

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 2LL+C

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli cyffredinol), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” (“exempt country or territory”) yw—

(a)

gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;

(b)

gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3,

ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” (“non-exempt country or territory”) i’w ddehongli yn unol â hynny;;;

mae i “teithiwr rheoliad 2A” (“regulation 2A traveller”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2A;.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Rheoliad newydd 2ALL+C

4.  Ar ôl rheoliad 2 (dehongli cyffredinol) mewnosoder—

Esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill

2A.(1) Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) yn deithiwr rheoliad 2A os yw P yn bodloni gofynion paragraff (2) ac unrhyw un neu ragor o baragraffau (3) i (6) o’r rheoliad hwn.

(2) Mae P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, ac eithrio un a restrir yn Atodlen 3A, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(3) Mewn perthynas â P—

(a)mae wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,

(b)cafodd y cwrs hwnnw o ddosau yn y Deyrnas Unedig,

(c)mae’n gallu darparu prawf os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo y bodlonir y gofyniad yn is-baragraff (a), drwy bàs COVID y GIG neu bàs cyfatebol oddi wrth GIG yr Alban, GIG Cymru neu’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon, a

(d)mae wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o frechlyn awdurdodedig gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1).

(4) Mae P—

(a)wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan, mewn treial clinigol o frechlyn awdurdodedig ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(3),

(b)yn gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw, ac

(c)wedi datgan bod P wedi cymryd rhan neu yn cymryd rhan mewn treial clinigol o’r fath gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1).

(5) Mae P—

(a)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, a

(b)o dan 18 oed pan fo’n cyrraedd Cymru.

(6) Mae P naill ai—

(a)yn berson—

(i)sydd wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,

(ii)sy’n gallu darparu prawf os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo o’r gofynion ym mharagraff (i), a

(iii)sydd wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlynnau fel a ddisgrifir ym mharagraff (i) gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1), neu

(b)yn ddibynnydd i berson a ddisgrifir yn unrhyw un o baragraffau (a) i (c) o’r diffiniad o “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” ac o dan 18 mlwydd oed pan fo’n cyrraedd Cymru.

(7) At ddibenion paragraffau (3) a (6), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—

(a)yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu

(b)yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(4) ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.

(8) At ddibenion paragraff (6), pan fo P wedi cael dos o frechlyn awdurdodedig yn y Deyrnas Unedig a dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod P wedi cael cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.

(9) At ddibenion y rheoliad hwn, mae plentyn i’w drin fel pe bai’n gwneud datganiad gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1), ac yn darparu unrhyw brawf sy’n ofynnol, os gwneir y datganiad hwnnw, ac os darperir y prawf, gan berson sy’n teithio gyda’r plentyn hwnnw ac sy’n gyfrifol amdano.

(10) Yn y rheoliad hwn—

mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “the licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (yr awdurdod trwyddedu a’r Gweinidogion);

mae i “awdurdodiad marchnata” yr ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (dehongli cyffredinol);

ystyr “brechlyn awdurdodedig” (“authorised vaccine”) yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws—

(a)

a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu

(b)

a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (cyflenwi mewn ymateb i ymlediad cyfryngau pathogenig etc.);

mae i “contractiwr y llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(5);

mae i “cynnyrch meddyginiaethol” yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (cynhyrchion meddyginiaethol);

“GIG” (“NHS”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(6);

“GIG yr Alban” (“NHS Scotland”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(7);

“GIG Cymru” (“NHS Wales”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(8);

mae i “gwas y Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989:

ystyr “pàs COVID y GIG” (“NHS COVID pass”) yw’r cofnodion COVID-19 ar ap ffôn clyfar y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy’r wefan ar NHS.uk neu drwy lythyr ar ôl brechiad COVID-19 a geir oddi wrth y GIG;

ystyr “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” (“United Kingdom vaccine roll-out overseas”) yw gweinyddu’r brechlyn yn erbyn y coronafeirws i—

(a)

gweision y Goron, contractwyr y llywodraeth neu bersonél arall sydd wedi eu lleoli neu eu seilio dramor a’u dibynyddion o dan y cynllun o’r enw rhaglen frechu COVID-19 staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu,

(b)

preswylwyr y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, fel rhan o raglen y cytunwyd arni yn y diriogaeth dramor gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig, neu

(c)

personél milwrol neu sifilaidd, contractwyr y llywodraeth a’u dibynyddion mewn lleoliadau milwrol tramor, gan gynnwys y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, o dan y cynllun brechu a ddarperir neu a gymeradwyir gan Wasanaethau Meddygol Amddiffyn y DU;

mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 6ABLL+C

5.—(1Mae rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)(c), o flaen paragraff (i) mewnosoder—

(ai)rheoliad 6L;.

(3Ym mharagraff (2)(d), yn lle paragraff (ii) rhodder—

(ii)archeb ar gyfer prawf diwrnod 2 mewn cysylltiad ag—

(aa)person (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth esempt a restrir yn Atodlen 3 o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru;

(bb)teithiwr rheoliad 2A.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 6DBLL+C

6.—(1Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle’r pennawd rhodder “Gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A”.

(3Ym mharagraff (3), yn lle “a restrir yn Atodlen 3” rhodder “y tu allan i’r ardal deithio gyffredin”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 6HBLL+C

7.—(1Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle’r pennawd rhodder “Goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A”.

(3Ym mharagraff (3), yn lle “a restrir yn Atodlen 3” rhodder “y tu allan i’r ardal deithio gyffredin”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 6KLL+C

8.—(1Mae rheoliad 6K (profi’r gweithlu) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—

(a)sy’n cyrraedd Cymru,

(b)sydd, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac

(c)sy’n berson a bennir yn—

(i)paragraff 6 o Atodlen 2, neu

(ii)rheoliad 12E(2)(g).

(3Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2 yn unol â pharagraff (6)—

(a)pan fo P yn deithiwr rheoliad 2A, neu

(b)pan na fo P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(4Ym mharagraff (2), ar y dechrau mewnosoder “Pan na fo paragraff (1A) yn gymwys,”.

(5Ym mharagraff (6)(b), ar ôl “yw prawf” mewnosoder “ar gyfer canfod y coronafeirws”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Rheoliad newydd 6LLL+C

9.  Ar ôl rheoliad 6K (profi’r gweithlu) mewnosoder—

Profi o ran digwyddiadau penodedig

6L.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—

(a)sy’n cyrraedd Cymru,

(b)sydd wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac

(c)sy’n berson perthnasol mewn digwyddiad penodedig.

(2) Rhaid i P gymryd prawf digwyddiad ar gyfer diwrnod 2 yn unol â pharagraff (9)—

(a)pan fo P yn deithiwr rheoliad 2A, neu

(b)pan na fo P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(3) Pan na fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i P gymryd prawf digwyddiad ar gyfer diwrnod 2 a diwrnod 8 yn unol â pharagraff (9) mewn perthynas â phob categori o brawf.

(4) Pan na fo P yn cymryd prawf digwyddiad fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf digwyddiad arall.

(5) Pan fo prawf digwyddiad arall wedi ei gymryd yn lle—

(a)prawf digwyddiad sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf digwyddiad ar ddiwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;

(b)prawf digwyddiad sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf digwyddiad ar ddiwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.

(6) Mae rheoliadau 6DA i 6HB yn gymwys i berson sy’n ddarostyngedig i’r rheoliad hwn fel pe bai—

(a)cyfeiriadau at reoliad 6AB a 6AB(1) yn gyfeiriadau at reoliad 6L a 6L(1) yn y drefn honno;

(b)cyfeiriadau at brawf diwrnod 2 yn gyfeiriadau at brawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 2;

(c)cyfeiriadau at brawf diwrnod 8 yn gyfeiriadau at brawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 8;

(d)y canlynol wedi ei roi yn lle rheoliad 6DB(5)—

(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf digwyddiad arall.;

(e)y canlynol wedi ei roi yn lle rheoliad 6HA(5)—

(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf digwyddiad arall.

(7) Pan fo prawf digwyddiad yn cynhyrchu canlyniad amhendant, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf digwyddiad pellach ac mae’r prawf digwyddiad pellach hwnnw i’w drin fel prawf digwyddiad arall.

(8) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am drefnu digwyddiad penodedig—

(a)cymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd profion digwyddiadau gan berson perthnasol mewn perthynas â’r digwyddiad penodedig y mae’n gyfrifol amdano;

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-baragraff (a).

(9) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “digwyddiad penodedig” (“a specified event”) yw digwyddiad a restrir yn Atodlen 1E;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) mewn perthynas â digwyddiad penodedig yw—

(a)

person sy’n cyfranogi yn y digwyddiad i ennill bywoliaeth;

(b)

unigolyn sy’n hanfodol i redeg y digwyddiad, gan gynnwys—

(i)

staff gweithredol syʼn hanfodol i redeg y digwyddiad;

(ii)

swyddogion y digwyddiad;

(iii)

dyfarnwyr;

(iv)

staff darlledu a newyddiadurwyr syʼn rhoi sylw i’r digwyddiad;

(c)

unigolyn sy’n hanfodol i gefnogi person a ddisgrifir ym mharagraff (a), gan gynnwys—

(i)

staff meddygol, logistaidd, technegol a gweinyddol;

(ii)

rhiant neu ofalwr person o’r fath, pan fo’r person hwnnw o dan 18 oed;

ystyr “prawf digwyddiad” (“an event test”) yw prawf ar gyfer canfod y coronafeirws;

ystyr “prawf digwyddiad arall” (“a replacement event test”) yw prawf digwyddiad sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf digwyddiad nas cynhaliwyd neu a ddarparodd ganlyniad amhendant;

ystyr “prawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 2” (“an event test undertaken for day 2”) yw prawf sy’n cael ei gymryd yn ddim hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

ystyr “prawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 8” (“an event test undertaken for day 8”) yw prawf digwyddiad sy’n cael ei gymryd cyn diwedd yr wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.

(10) Yn y rheoliad hwn, wrth ystyried a yw person yn ennill bywoliaeth o gyfranogi mewn digwyddiad, mae unrhyw daliad a wneir er budd person o ganlyniad i’w gyfranogiad i’w gymryd i ystyriaeth, gan gynnwys taliad ar ffurf cyflog, arian gwobrwyo neu drwy drefniant contractiol o unrhyw fath arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 9LL+C

10.—(1Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Mae paragraff (1) wedi ei hepgor.

(3Yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i—

(a)person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;

(b)person a ddisgrifir ym mharagraffau 2 i 5, 6A i 16 a 36 o Atodlen 2;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3), person a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2;

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (3), person a ddisgrifir yn rheoliad 12E(2)(a) i (d) (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A);

(e)teithiwr rheoliad 2A.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 14LL+C

11.—(1Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (i), hepgorer “neu”;

(b)yn is-baragraff (j), ar ôl “6K,” mewnosoder “neu”;

(c)ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—

(k)6L,.

(3Ym mharagraff (1B), yn lle “neu 6K” rhodder “, 6K neu 6L”.

(4Ym mharagraff (1E), yn lle “rheoliad 6K” rhodder “rheoliadau 6K a 6L o ran cymryd profion”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i reoliad 16LL+C

12.  Yn rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig), ym mharagraff (6AC), ar ôl “6K,” mewnosoder “neu yn rheoliad 14(1)(k) am dorri gofyniad yn rheoliad 6L,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i Atodlen 1LL+C

13.  Yn Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

3.  Pan fo’r teithiwr yn bwriadu manteisio ar esemptiad fel teithiwr rheoliad 2A, y ffaith bod y teithiwr wedi ei frechu neu’n dod o fewn un o’r categorïau esemptiad eraill o fewn rheoliad 2A.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Atodlen newydd 1ELL+C

14.  Ar ôl Atodlen 1D mewnosoder—

Rheoliad 6L

ATODLEN 1ELL+CDigwyddiadau profi penodedig

Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth Agored Cazoo.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Atodlen 3LL+C

15.—(1Mae Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Bwlgaria

Croatia

Hong Kong

Taiwan;

(b)hepgorer “Ynysoedd Baleares”.

(3Yn Rhan 2, hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf”.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Atodlen 3ALL+C

16.  Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Cuba

Indonesia

Myanmar

Sierra Leone.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020LL+C

17.  Mae’r Atodlen i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020(9) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn lle Rhan 1 rhodder—

Rhan 1LL+C

Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—

Essential information to enter Wales from overseas

Everyone entering Wales from overseas (including UK nationals and residents) must provide proof of a negative COVID-19 test taken within 3 days of departure to Wales.

Fill in your passenger locator form up to 48 hours before arrival. You must declare all countries you have visited or transited through in the 10 days prior to your arrival in the UK on your passenger locator form.

Before departure, check the list of red, amber and green countries as the list can change regularly.

Red list passengers

1. Book a Managed Quarantine Package

2. Complete a passenger locator form

You can only enter if you are a British or Irish National, or you have residence rights in the UK. You must enter through a designated port and quarantine in a government approved hotel for 10 days.

Amber list passengers

1. Book tests for day 2 and 8

2. Complete a passenger locator form

3. Make plans to self-quarantine in private accommodation for 10 full days after arrival (or full duration of stay if less than 10 days).

If you are arriving from an amber country, and have been fully vaccinated through an approved vaccination programme, at least 14 days before your arrival in Wales, you must:

1. Book a test for day 2

2. Complete a passenger locator form

Green list passengers

1. Book a test for day 2

2. Complete a passenger locator form

These measures apply to all persons (including UK nationals and residents) arriving in Wales from outside the common travel area comprising the United Kingdom, Ireland, the Isle of Man, and the Channel Islands. The British Overseas Territories are not in the common travel area. Public health requirements may vary depending upon in which nation of the UK you are staying.

England: https://www.gov.uk/uk-border-control

Northern Ireland: https://www.nidirect.gov.uk/articles/coronavirus-covid-19-international-travel-advice

Scotland: https://www.gov.scot/publications/coronavirus-covid-19-international-travel-quarantine/pages/overview/

Wales: https://gov.wales/travelrules

Failure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. There are a limited set of exemptions from these measures. Check the list of exemptions carefully. You may be fined if you fraudulently claim an exemption.;;

(b)yn Rhan 2—

(i)ym mharagraff (a) (y fersiwn Gymraeg), ar ôl “o fewn y ddau ddiwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd” mewnosoder “, hyd yn oed os ydych wedi eich brechu yn llawn”;

(ii)ym mharagraff (b) (y fersiwn Saesneg), ar ôl “within the first two days after you arrive” mewnosoder “, even if you have been fully vaccinated”.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 3.49 p.m. ar 16 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (y “Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru o wledydd neu diriogaethau nad ydynt yn esempt ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn cyflwyno diffiniad newydd mewn perthynas â theithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill. Mae hefyd yn gwneud mân ddiwygiad canlyniadol er mwyn symud diffiniad presennol o fewn y Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 4 yn cyflwyno esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu yn llawn yn y DU â brechlyn a gymeradwywyd. Mae’r esemptiadau hyn hefyd yn gymwys i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn treialon brechlynnau penodol, a dinasyddion o’r DU neu breswylwyr yn y DU sydd o dan 18 oed pan fônt yn cyrraedd Cymru. Mae’r teithwyr hynny wedi eu hesemptio rhag gorfod ynysu ar ôl dychwelyd o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (ac eithrio un a bennir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol), ac nid oes ond gofyniad iddynt gymryd prawf diwrnod 2. Mae’r esemptiadau hyn yn gymwys felly mewn perthynas â theithwyr perthnasol sy’n cyrraedd o’r hyn a elwir yn gyffredin y gwledydd ‘rhestr oren’.

Mae rheoliadau 5, 6, 7, 8, 10 a 13 yn gwneud diwygiadau pellach i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn rhoi effaith i’r esemptiadau newydd hyn.

Mae rheoliad 9 yn cyflwyno trefn brofi newydd mewn perthynas â ‘digwyddiadau penodedig’, sy’n golygu’r digwyddiadau hynny a bennir yn yr Atodlen 1E newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 5 yn hepgor pobl y mae’r drefn newydd hon yn gymwys iddynt o’r darpariaethau profi yn rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â throseddau a hysbysiadau cosb benodedig sy’n ymwneud â methiannau i gydymffurfio â’r gofynion mewn perthynas â phrofion digwyddiadau penodedig.

Mae rheoliad 15 yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth esempt ynysu, ni waeth beth fo’u statws o dan yr esemptiadau newydd sy’n ymwneud â brechu. Mae rheoliad 15 yn ychwanegu Bwlgaria, Croatia, Hong Kong a Taiwan at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin. Mae rheoliad 15 hefyd yn hepgor Ynysoedd Baleares ac Ynysoedd Prydeinig y Wyryf o’r rhestr.

Mae rheoliad 16 yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 16 yn ychwanegu Cuba, Indonesia, Myanmar a Sierra Leone at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol.

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr.

O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan reoliadau 4, 5, 6, 7, 8, 10 a 13 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 17 yn diwygio’r wybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig y mae rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr cyn iddynt deithio i Gymru ac wrth iddynt deithio iddi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(6)

2006 p. 41; amnewidiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7).