- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4. Ar ôl rheoliad 2 (dehongli cyffredinol) mewnosoder—
2A.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) yn deithiwr rheoliad 2A os yw P yn bodloni gofynion paragraff (2) ac unrhyw un neu ragor o baragraffau (3) i (6) o’r rheoliad hwn.
(2) Mae P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, ac eithrio un a restrir yn Atodlen 3A, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(3) Mewn perthynas â P—
(a)mae wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,
(b)cafodd y cwrs hwnnw o ddosau yn y Deyrnas Unedig,
(c)mae’n gallu darparu prawf os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo y bodlonir y gofyniad yn is-baragraff (a), drwy bàs COVID y GIG neu bàs cyfatebol oddi wrth GIG yr Alban, GIG Cymru neu’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon, a
(d)mae wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o frechlyn awdurdodedig gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1).
(4) Mae P—
(a)wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan, mewn treial clinigol o frechlyn awdurdodedig ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(1),
(b)yn gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw, ac
(c)wedi datgan bod P wedi cymryd rhan neu yn cymryd rhan mewn treial clinigol o’r fath gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1).
(5) Mae P—
(a)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, a
(b)o dan 18 oed pan fo’n cyrraedd Cymru.
(6) Mae P naill ai—
(a)yn berson—
(i)sydd wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,
(ii)sy’n gallu darparu prawf os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo o’r gofynion ym mharagraff (i), a
(iii)sydd wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlynnau fel a ddisgrifir ym mharagraff (i) gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1), neu
(b)yn ddibynnydd i berson a ddisgrifir yn unrhyw un o baragraffau (a) i (c) o’r diffiniad o “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” ac o dan 18 mlwydd oed pan fo’n cyrraedd Cymru.
(7) At ddibenion paragraffau (3) a (6), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—
(a)yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu
(b)yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(2) ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.
(8) At ddibenion paragraff (6), pan fo P wedi cael dos o frechlyn awdurdodedig yn y Deyrnas Unedig a dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod P wedi cael cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn, mae plentyn i’w drin fel pe bai’n gwneud datganiad gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1), ac yn darparu unrhyw brawf sy’n ofynnol, os gwneir y datganiad hwnnw, ac os darperir y prawf, gan berson sy’n teithio gyda’r plentyn hwnnw ac sy’n gyfrifol amdano.
(10) Yn y rheoliad hwn—
mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “the licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (yr awdurdod trwyddedu a’r Gweinidogion);
mae i “awdurdodiad marchnata” yr ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (dehongli cyffredinol);
ystyr “brechlyn awdurdodedig” (“authorised vaccine”) yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws—
a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu
a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (cyflenwi mewn ymateb i ymlediad cyfryngau pathogenig etc.);
mae i “contractiwr y llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(3);
mae i “cynnyrch meddyginiaethol” yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (cynhyrchion meddyginiaethol);
“GIG” (“NHS”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(4);
“GIG yr Alban” (“NHS Scotland”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5);
“GIG Cymru” (“NHS Wales”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(6);
mae i “gwas y Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989:
ystyr “pàs COVID y GIG” (“NHS COVID pass”) yw’r cofnodion COVID-19 ar ap ffôn clyfar y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy’r wefan ar NHS.uk neu drwy lythyr ar ôl brechiad COVID-19 a geir oddi wrth y GIG;
ystyr “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” (“United Kingdom vaccine roll-out overseas”) yw gweinyddu’r brechlyn yn erbyn y coronafeirws i—
gweision y Goron, contractwyr y llywodraeth neu bersonél arall sydd wedi eu lleoli neu eu seilio dramor a’u dibynyddion o dan y cynllun o’r enw rhaglen frechu COVID-19 staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu,
preswylwyr y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, fel rhan o raglen y cytunwyd arni yn y diriogaeth dramor gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig, neu
personél milwrol neu sifilaidd, contractwyr y llywodraeth a’u dibynyddion mewn lleoliadau milwrol tramor, gan gynnwys y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, o dan y cynllun brechu a ddarperir neu a gymeradwyir gan Wasanaethau Meddygol Amddiffyn y DU;
mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004.”
O.S. 2004/1031, a ddiwygiwyd gan adran 116 o Ddeddf Gofal 2014 (p. 23) a chan O.S. 2004/3224, O.S. 2005/2754, O.S. 2005/2759, O.S. 2006/562, O.S. 2006/928, O.S. 2006/2984, O.S. 2007/289, O.S. 2007/3101, O.S. 2008/941, O.S. 2010/231, O.S. 2010/551, O.S. 2010/1882, O.S. 2011/2581, O.S. 2012/134, O.S. 2012/504, O.S. 2012/1641, O.S. 2012/1916, O.S. 2013/532, O.S. 2016/190, O.S. 2016/696, O.S. 2019/593, O.S. 2019/744, O.S. 2019/1094 ac O.S. 2020/1488.
2006 p. 41; amnewidiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: