Diwygiadau i reoliad 6K8.

(1)

Mae rheoliad 6K (profi’r gweithlu) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—

(a)

sy’n cyrraedd Cymru,

(b)

sydd, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac

(c)

sy’n berson a bennir yn—

(i)

paragraff 6 o Atodlen 2, neu

(ii)

rheoliad 12E(2)(g).”

(3)

Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

“(1A)

Rhaid i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2 yn unol â pharagraff (6)—

(a)

pan fo P yn deithiwr rheoliad 2A, neu

(b)

pan na fo P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.”

(4)

Ym mharagraff (2), ar y dechrau mewnosoder “Pan na fo paragraff (1A) yn gymwys,”.

(5)

Ym mharagraff (6)(b), ar ôl “yw prawf” mewnosoder “ar gyfer canfod y coronafeirws”.