Rheoliad newydd 6LI19
Ar ôl rheoliad 6K (profi’r gweithlu) mewnosoder—
Profi o ran digwyddiadau penodedig6L
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—
a
sy’n cyrraedd Cymru,
b
sydd wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac
c
sy’n berson perthnasol mewn digwyddiad penodedig.
2
Rhaid i P gymryd prawf digwyddiad ar gyfer diwrnod 2 yn unol â pharagraff (9)—
a
pan fo P yn deithiwr rheoliad 2A, neu
b
pan na fo P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
3
Pan na fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i P gymryd prawf digwyddiad ar gyfer diwrnod 2 a diwrnod 8 yn unol â pharagraff (9) mewn perthynas â phob categori o brawf.
4
Pan na fo P yn cymryd prawf digwyddiad fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf digwyddiad arall.
5
Pan fo prawf digwyddiad arall wedi ei gymryd yn lle—
a
prawf digwyddiad sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf digwyddiad ar ddiwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;
b
prawf digwyddiad sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf digwyddiad ar ddiwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.
6
Mae rheoliadau 6DA i 6HB yn gymwys i berson sy’n ddarostyngedig i’r rheoliad hwn fel pe bai—
a
cyfeiriadau at reoliad 6AB a 6AB(1) yn gyfeiriadau at reoliad 6L a 6L(1) yn y drefn honno;
b
cyfeiriadau at brawf diwrnod 2 yn gyfeiriadau at brawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 2;
c
cyfeiriadau at brawf diwrnod 8 yn gyfeiriadau at brawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 8;
d
y canlynol wedi ei roi yn lle rheoliad 6DB(5)—
5
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf digwyddiad arall.
e
y canlynol wedi ei roi yn lle rheoliad 6HA(5)—
5
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf digwyddiad arall.
7
Pan fo prawf digwyddiad yn cynhyrchu canlyniad amhendant, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf digwyddiad pellach ac mae’r prawf digwyddiad pellach hwnnw i’w drin fel prawf digwyddiad arall.
8
Rhaid i berson sy’n gyfrifol am drefnu digwyddiad penodedig—
a
cymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd profion digwyddiadau gan berson perthnasol mewn perthynas â’r digwyddiad penodedig y mae’n gyfrifol amdano;
b
rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-baragraff (a).
9
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “digwyddiad penodedig” (“a specified event”) yw digwyddiad a restrir yn Atodlen 1E;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) mewn perthynas â digwyddiad penodedig yw—
- a
person sy’n cyfranogi yn y digwyddiad i ennill bywoliaeth;
- b
unigolyn sy’n hanfodol i redeg y digwyddiad, gan gynnwys—
- i
staff gweithredol syʼn hanfodol i redeg y digwyddiad;
- ii
swyddogion y digwyddiad;
- iii
dyfarnwyr;
- iv
staff darlledu a newyddiadurwyr syʼn rhoi sylw i’r digwyddiad;
- c
unigolyn sy’n hanfodol i gefnogi person a ddisgrifir ym mharagraff (a), gan gynnwys—
- i
staff meddygol, logistaidd, technegol a gweinyddol;
- ii
rhiant neu ofalwr person o’r fath, pan fo’r person hwnnw o dan 18 oed;
ystyr “prawf digwyddiad” (“an event test”) yw prawf ar gyfer canfod y coronafeirws;
ystyr “prawf digwyddiad arall” (“a replacement event test”) yw prawf digwyddiad sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf digwyddiad nas cynhaliwyd neu a ddarparodd ganlyniad amhendant;
ystyr “prawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 2” (“an event test undertaken for day 2”) yw prawf sy’n cael ei gymryd yn ddim hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
ystyr “prawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 8” (“an event test undertaken for day 8”) yw prawf digwyddiad sy’n cael ei gymryd cyn diwedd yr wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.
10
Yn y rheoliad hwn, wrth ystyried a yw person yn ennill bywoliaeth o gyfranogi mewn digwyddiad, mae unrhyw daliad a wneir er budd person o ganlyniad i’w gyfranogiad i’w gymryd i ystyriaeth, gan gynnwys taliad ar ffurf cyflog, arian gwobrwyo neu drwy drefniant contractiol o unrhyw fath arall.