NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau”),

(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau’r ABE”),

(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPC”),

(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),

(e)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2017”),

(f)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”),

(g)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”), ac

(h)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2019”).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau. Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau yn darparu, o dan amgylchiadau penodol, ei bod yn gyfreithlon i sefydliadau wahaniaethu rhwng rhai neu bob un o’r personau hynny a grybwyllir yn yr Atodlen ac unrhyw berson arall, drwy godi ffioedd uwch ar bersonau nas crybwyllir yn yr Atodlen na’r ffioedd a godir ar bersonau a grybwyllir felly. Er mwyn dod o fewn yr Atodlen honno, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (“caniatâd i aros o dan adran 67”) a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r ABE. Mae Rheoliadau’r ABE yn darparu ar gyfer cymorth i un myfyriwr cymwys sy’n dilyn cwrs addysg uwch dynodedig yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4ZA) yn Atodlen 1 i Reoliadau’r ABE ac yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i reoliadau 3 a 6 o Reoliadau’r ABE.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau CPC. Mae’r Rheoliadau CPC yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd, neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd, mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol. Terfyn ffioedd yw’r uchafswm sy’n daladwy gan berson cymhwysol mewn perthynas â chwrs cymhwysol ac mae’r Atodlen i’r Rheoliadau CPC yn rhestru’r personau hynny a all fod yn bersonau cymhwysol. Er mwyn dod o fewn yr Atodlen honno, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2017. Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4ZA) yn Atodlen 1 i Reoliadau 2017 ac yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau 2017.

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Graddau Meistr 2017. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4ZA) yn Atodlen 1 i Reoliadau Graddau Meistr 2017 ac yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau Graddau Meistr 2017.

Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018. Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 2ZA) yn Atodlen 2 i Reoliadau 2018 ac yn diwygio paragraffau 2A, 3 a 3A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau 2018.

Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Graddau Doethurol. Mae’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4A) yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Graddau Doethurol ac yn diwygio paragraffau 5 a 6A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i’r Rheoliadau Graddau Doethurol.

Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Graddau Meistr 2019. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2019 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer naill ai yn y Deyrnas Unedig neu yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 2A) yn Atodlen 2 i Reoliadau Graddau Meistr 2019 ac yn diwygio paragraffau 3, 4 a 5 o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau Graddau Meistr 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.