- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)—
(a)yn is-baragraff (b), ar ôl “Deyrnas Unedig” mewnosoder “neu mewn gwlad berthnasol”;
(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(ba)os cafwyd y cwrs o ddosau yn Unol Daleithiau America, mae’n preswylio fel arfer yn Unol Daleithiau America.”;
(c)yn is-baragraff (c)—
(i)ar ôl “swyddog mewnfudo” mewnosoder “neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio i Gymru arno o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin”;
(ii)yn lle “drwy bàs COVID y GIG” hyd at y diwedd rhodder—
“drwy—
(i)pàs COVID y GIG, neu bàs cyfatebol oddi wrth GIG yr Alban, GIG Cymru neu’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon,
(ii)tystysgrif COVID Ddigidol yr UE, neu
(iii)cerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau,”;
(d)ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder—
“(ca)mae’n gallu darparu prawf os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin ei fod yn bodloni’r gofyniad yn is-baragraff (ba), a”.
(3) Ym mharagraff (4)(b), ar ôl “cymryd rhan hwnnw” mewnosoder “os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin”.
(4) Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(4A) Mae P—
(a)wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan mewn treial clinigol yn Unol Daleithiau America gan y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau ar gyfer brechlyn i frechu yn erbyn y coronafeirws;
(b)yn gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw drwy gerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin;
(c)wedi datgan bod P yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd o ran brechu yn erbyn COVID-19 ar gyfer llai o ofynion ynysu a phrofi gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1); a
(d)yn preswylio fel arfer yn Unol Daleithiau America ac yn gallu darparu prawf o’r preswyliad hwnnw os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin.”.
(5) Ym mharagraff (5)(a), ar ôl “Deyrnas Unedig” mewnosoder “neu mewn gwlad berthnasol”.
(6) Ym mharagraff (10)—
(a)yn lle’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” rhodder—
“ystyr “brechlyn awdurdodedig” (“authorised vaccine”) yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws—
mewn perthynas â dosau a geir yn y Deyrnas Unedig—
a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu
a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol, a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y wlad honno yn dilyn gwerthusiad gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;”;
(b)yn lle’r diffiniad o “awdurdodiad marchnata” rhodder—
“ystyr “awdurdodiad marchnata” (“marketing authorisation”)—
mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth, yw’r ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) (dehongli cyffredinol) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi mewn gwlad berthnasol ac eithrio Aelod-wladwriaeth, yw awdurdodiad marchnata a roddwyd gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;”;
(c)yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “gwlad berthnasol” (“relevant country”) yw gwlad a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11);
“ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”), mewn perthynas â gwlad berthnasol, yw’r rheoleiddiwr a nodir yn y rhes gyfatebol o ail golofn y tabl ym mharagraff (11), ac mae cyfeiriad at reoleiddiwr yn y tabl hwnnw yn gyfeiriad at yr awdurdod rheoleiddiol sy’n dwyn yr enw hwnnw a ddynodwyd yn Awdurdod Rheoleiddiol Llym gan Sefydliad Iechyd y Byd yn unol â gweithrediad Cyfleuster COVAX(1);”;
(d)ar ôl paragraff (10) mewnosoder—
“(11) Mae’r tabl y cyfeirir ato yn y diffiniadau o “gwlad berthnasol” a “rheoleiddiwr perthnasol” yn dilyn—
Y wlad berthnasol | Y rheoleiddiwr perthnasol |
---|---|
Aelod-wladwriaeth | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Andorra | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Gwlad yr Iâ Gwladwriaeth Dinas y Fatican | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd | |
Liechtenstein | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Monaco | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Norwy | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
San Marino | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Y Swistir | Swissmedic |
Unol Daleithiau America | Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau”. |
Mae rhestr o’r awdurdodau rheoleiddiol cenedlaethol a ddynodwyd yn Awdurdodau Rheoleiddiol Llym wedi ei chyhoeddi gan Sefydliad Iechyd y Byd ac mae ar gael ar-lein arhttps://extranet.who.int/pqweb/sites/default/files/documents/Product-Eligibility_COVAX-Facility_Dec2020_0.pdf
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: