xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 2.15 p.m. ar 6 Awst 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 5.00 p.m. ar 6 Awst 2021
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio paragraffau (3), (12) i (14), (16) i (18) a (22) i (26) o reoliad 2, i rym ar ddechrau’r diwrnod ar 7 Awst 2021.
(3) Daw paragraffau (3), (12) i (14), (16) i (18) a (22) i (26) o reoliad 2 i rym am 6.00 a.m. ar 7 Awst 2021.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2)) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn lle “27 Awst” rhodder “26 Tachwedd”.
(3) Ar ôl rheoliad 4(6) mewnosoder—
“(6ZA) Ond caiff Atodlen 5 ddarparu nad yw’r un o Atodlenni 1 i 4 yn gymwys i ardal drwy bennu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i’r ardal.”
(4) Yn rheoliad 5(2), yn lle “rheoliadau 6 ac 8” rhodder “rheoliad 6”.
(5) Hepgorer rheoliad 9.
(6) Yn rheoliad 10—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “, 8(2) neu 9(2)” rhodder “neu 8(2)”;
(b)ym mharagraff (3), yn lle “, 8(2) a 9(2)” rhodder “ac 8(2)”;
(c)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Nid yw rheoliad 8(2) yn gymwys i berson—
(a)sydd wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig, ac—
(i)bod y cwrs hwnnw o ddosau wedi ei weinyddu i’r person yn y Deyrnas Unedig,
(ii)bod y diwrnod y cafodd y person y cysylltiad agos a arweiniodd at yr hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) yn fwy na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cwblhaodd y person y cwrs hwnnw o ddosau, a
(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog olrhain cysylltiadau a roddodd yr hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1), sy’n darparu tystiolaeth ei fod wedi cwblhau’r cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig yn unol ag is-baragraff (a).
(6) Nid yw rheoliad 8(2) yn gymwys i berson—
(a)sydd wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn y Deyrnas Unedig yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(3), a
(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog olrhain cysylltiadau a roddodd yr hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1), sy’n darparu tystiolaeth ei fod wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol yn unol ag is-baragraff (a).
(7) At ddibenion paragraff (5), mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw’r person hwnnw wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—
(a)yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu
(b)yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(4) ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “brechlyn awdurdodedig” yw cynnyrch meddyginiaethol—
(i)a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu
(ii)a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012,
ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws;
(b)mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004;
(c)mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
(d)mae i “awdurdodiad marchnata” yr ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
(e)mae i “cynnyrch meddyginiaethol” yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012.”
(7) Ar ôl rheoliad 10 mewnosoder—
10A. Pan—
(a)bo person—
(i)yn bodloni’r amodau yn rheoliad 10(5) neu (6), neu’n blentyn, a
(ii)o dan ofyniad i beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 8(2) neu 9(2) yn union cyn 7 Awst 2021, a
(b)bo diwrnod olaf ynysiad y person (fel y’i pennir yn unol â rheoliad 8(4) neu (5) neu reoliad 9(4) neu (5)) ar 7 Awst 2021 neu’n ddiweddarach,
daw’r gofyniad i beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, i ben ar ddechrau 7 Awst 2021.”
(8) Yn rheoliad 11—
(a)ym mharagraff (1)(a), hepgorer “neu 9(2)”;
(b)ym mharagraff (5)(b), hepgorer “neu 9 yn ôl y digwydd”;
(c)hepgorer paragraff (6).
(9) Yn rheoliad 12, hepgorer “neu 9(2)”.
(10) Yn rheoliad 13(1)(a), yn lle “, 8(1) neu 9(1)” rhodder “neu 8(1)”.
(11) Yn rheoliad 14—
(a)ym mharagraff (2)(a), yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “, 8(2) neu 9(2)” rhodder “neu 8(2)”;
(b)ym mharagraff (2)(a)(ii), yn lle “, 8(1) neu 9(1)” rhodder “neu 8(1)”;
(c)ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “, 8 neu 9” rhodder “ neu 8”.
(12) Yn rheoliad 16—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer—
“Cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau o dan do yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir;
pan fo’n ofynnol i bersonau aros o dan do i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir.
Cam 4”;
(ii)o dan y pennawd “Cam 2”, hepgorer “a Cham 4”.
(b)hepgorer paragraff (2);
(c)ym mharagraff (5)(a), yn lle “regulations 16, 17 and 17A” rhodder “regulation 16”;
(d)hepgorer paragraff (6).
(13) Hepgorer rheoliadau 17 a 17A.
(14) Yn rheoliad 18(1), hepgorer “, 17(1) neu 17A”.
(15) Yn rheoliad 19—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “mewn cerbyd” rhodder “mewn rhan o dan do o gerbyd”;
(b)hepgorer paragraff (3)(c)(i), gan gynnwys y “neu” ar y diwedd.
(16) Yn rheoliad 20—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl “gael mynediad iddynt” mewnosoder “, ac eithrio mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre”;
(b)hepgorer paragraff (3)(h);
(c)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) At ddibenion paragraff (1), pan—
(a)bo busnes (“busnes A”) yn gwerthu, neu fel arall yn darparu, bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre busnes,
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), ac
(c)bo busnes B hefyd yn cynnal ei fusnes yn y fangre, ond na fo’n gwerthu, neu fel arall yn darparu, bwyd na diod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno,
mae P i’w drin fel pe bai mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre dim ond pan fo P yn y rhan o’r fangre lle y mae busnes A yn cynnal ei fusnes.”
(17) Yn rheoliad 25(3)(a)(i), hepgorer “, 17(1) neu 17A”.
(18) Yn rheoliad 26, hepgorer “, 17(1) a 17A”.
(19) Yn rheoliad 30, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “, 8(2) neu 9(2)” rhodder “ neu 8(2)”.
(20) Yn rheoliad 40—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “, 9(2)”;
(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “, 8(3) neu 9(3)” rhodder “neu 8(3)”;
(b)ym mharagraff (2)(a), yn lle “, 8(3) neu 9(3)” rhodder “neu 8(3)”.
(21) Yn rheoliad 57(5), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
“(aa)mae cerbyd, neu ran o gerbyd, o dan do os yw’n gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw;”.
(22) Yn Atodlen 1, paragraff 5(4A), yn lle “rheoliadau 16, 17 a 17A” rhodder “rheoliad 16”.
(23) Yn Atodlen 2, paragraff 5(4A), yn lle “rheoliadau 16, 17 a 17A” rhodder “rheoliad 16”.
(24) Yn Atodlen 3, paragraff 6(4A), yn lle “rheoliadau 16, 17 a 17A” rhodder “rheoliad 16”.
(25) Yn Atodlen 5, yng Ngholofn 3, yn lle “1” rhodder “Dim lefel rhybudd”.
(26) Yn Atodlen 8—
(a)ym mharagraff 1—
(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “, 17 neu 17A”;
(ii)yn is-baragraff (2)(b), hepgorer “, 17 neu 17A”;
(b)ym mharagraff 2—
(i)yn is-baragraff (3)(a), hepgorer “, 17 neu 17A”;
(ii)yn is-baragraff (4)(b)(ii), hepgorer “, 17 neu 17A”;
(iii)yn is-baragraff (4)(c), hepgorer “, 17 neu 17A”;
(c)ym mharagraff 3(3)(c), hepgorer “a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17 neu 17A”;
(d)ym mharagraff 4(1)(b), hepgorer “a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17 neu 17A”.
3. Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(5), yn lle “27 Awst” rhodder “26 Tachwedd”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.15 p.m. ar 6 Awst 2021
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru o 6.00 a.m. ar 7 Awst 2021. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys. Yr effaith yw:
nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull, gan gynnwys mewn cartrefi preifat ac mewn mannau cyhoeddus;
nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff fynd i ddigwyddiadau rheoleiddiedig ar unrhyw adeg;
nad oes unrhyw ofynion i unrhyw fathau penodol o fusnesau neu wasanaethau gau.
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion mewn rhannau eraill (ar wahân i Atodlenni 1 i 4) o’r prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys, gan gynnwys gofynion ar bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd rheoleiddiedig i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd, a gofynion i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do.
Er gwaethaf llacio’r rheolau ar bobl yn ymgynnull ac yn mynd i ddigwyddiadau, mae’r mesurau rhesymol (o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau) sy’n dal i fod yn ofynnol mewn mangre reoleiddiedig yn golygu y gall fod angen i’r rheini sy’n gyfrifol am y fangre bennu terfynau ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull, ac ar gapasiti digwyddiadau.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r gofyniad yn Rhan 3 o’r prif Reoliadau i berson ynysu ar ôl cael ei hysbysu gan swyddog olrhain cysylltiadau ei fod wedi cael cysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws. Mae’r Rheoliadau yn mewnosod esemptiad newydd yn rheoliad 10(5) o’r prif Reoliadau i ddarparu nad yw’n ofynnol mwyach i oedolion ynysu ar ôl cael hysbysiad o’r fath os ydynt wedi cwblhau, yn y Deyrnas Unedig, gwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddynt gael y cysylltiad agos, neu os ydynt yn cymryd rhan mewn treial clinigol yn y Deyrnas Unedig o frechlyn yn erbyn y coronafeirws. Mae’r diwygiadau hefyd yn hepgor rheoliad 9 o’r prif Reoliadau fel nad oes gofyniad mwyach i bersonau o dan 18 oed ynysu ar ôl cael hysbysiad o’r fath.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn mewnosod rheoliad newydd 10A yn y prif Reoliadau i ddarparu, pan fo’n ofynnol i blentyn, neu berson y mae’r esemptiad newydd yn rheoliad 10(5) yn gymwys iddo, ynysu yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym ar ôl cael ei hysbysu ei fod wedi cael cysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws, y daw’r gofyniad i ynysu i ben ar ddechrau’r diwrnod ar 7 Awst 2021.
Nid oes unrhyw newid i’r gofynion i bersonau ynysu ar ôl cael eu hysbysu eu bod wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn—
darparu y bydd y prif Reoliadau yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 26 Tachwedd 2021 (yn hytrach na 27 Awst 2021);
dileu’r gofyniad penodol yn rheoliad 16 o’r prif Reoliadau i’r person sy’n gyfrifol am fangre reoleiddiedig gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau sydd o dan do yn y fangre (ond rhaid i’r person sy’n gyfrifol barhau i gydymffurfio â gweddill rheoliad 16 drwy gymryd pob mesur rhesymol, yn seiliedig ar asesiad risg, i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, a all gynnwys cadw pellter corfforol);
dileu’r gofynion penodol yn rheoliadau 17 a 17A o’r prif Reoliadau i bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd trwyddedig a mangreoedd manwerthu gymryd mesurau penodol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws (ond unwaith eto, rhaid i’r personau hynny barhau i gydymffurfio â rheoliad 16 o’r prif Reoliadau, a gall y mesurau y gall fod yn rhesymol eu cymryd o dan y rheoliad hwnnw gynnwys mesurau yr oedd yn ofynnol yn benodol iddynt gael eu cymryd o’r blaen o dan reoliad 17 (er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid eistedd pan weinir bwyd neu ddiod iddynt mewn mangre drwyddedig) neu reoliad 17A (er enghraifft, cyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd mewn mangre fanwerthu ar unrhyw un adeg));
dileu’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cyhoeddus o dan do mewn mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre (ond pan fo mathau gwahanol o fusnesau yn gweithredu o fangreoedd o’r fath hefyd, rhaid gwisgo gorchuddion wyneb o hyd yn y rhannau hynny o’r mangreoedd lle na werthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre).
Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill, gan gynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a nodir uchod.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 26 Tachwedd 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/1609 (Cy. 335) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1610 (Cy. 336), O.S. 2020/1623 (Cy. 340), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/57 (Cy. 13), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/103 (Cy. 28), O.S. 2021/172 (Cy. 40), O.S. 2021/210 (Cy. 52), O.S. 2021/307 (Cy. 79), O.S. 2021/413 (Cy. 133), O.S. 2021/502 (Cy. 150), O.S. 2021/542 (Cy. 154), O.S. 2021/583 (Cy. 160), O.S. 2021/668 (Cy. 169), O.S. 2021/686 (Cy. 172), O.S. 2021/722 (Cy. 183) ac O.S. 2021/862 (Cy. 201).
O.S. 2004/1031 fel y’i diwygiwyd gan adran 116 o Ddeddf Gofal 2014 (p. 23) a chan O.S. 2004/3224, O.S. 2005/2754, O.S. 2005/2759, O.S. 2006/562, O.S. 2006/1928, O.S. 2006/2984, O.S. 2007/289, O.S. 2007/3101, O.S. 2008/941, O.S. 2010/231, O.S. 2010/551, O.S. 2010/1882, O.S. 2011/2581, O.S. 2012/134, O.S. 2012/504, O.S. 2012/1641, O.S. 2012/1916, O.S. 2013/532, O.S. 2016/190, O.S. 2016/696, O.S. 2019/593, O.S. 2019/744, O.S. 2019/1094 ac O.S. 2020/1488.