- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru o 6.00 a.m. ar 7 Awst 2021. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys. Yr effaith yw:
nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull, gan gynnwys mewn cartrefi preifat ac mewn mannau cyhoeddus;
nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff fynd i ddigwyddiadau rheoleiddiedig ar unrhyw adeg;
nad oes unrhyw ofynion i unrhyw fathau penodol o fusnesau neu wasanaethau gau.
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion mewn rhannau eraill (ar wahân i Atodlenni 1 i 4) o’r prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys, gan gynnwys gofynion ar bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd rheoleiddiedig i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd, a gofynion i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do.
Er gwaethaf llacio’r rheolau ar bobl yn ymgynnull ac yn mynd i ddigwyddiadau, mae’r mesurau rhesymol (o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau) sy’n dal i fod yn ofynnol mewn mangre reoleiddiedig yn golygu y gall fod angen i’r rheini sy’n gyfrifol am y fangre bennu terfynau ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull, ac ar gapasiti digwyddiadau.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r gofyniad yn Rhan 3 o’r prif Reoliadau i berson ynysu ar ôl cael ei hysbysu gan swyddog olrhain cysylltiadau ei fod wedi cael cysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws. Mae’r Rheoliadau yn mewnosod esemptiad newydd yn rheoliad 10(5) o’r prif Reoliadau i ddarparu nad yw’n ofynnol mwyach i oedolion ynysu ar ôl cael hysbysiad o’r fath os ydynt wedi cwblhau, yn y Deyrnas Unedig, gwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddynt gael y cysylltiad agos, neu os ydynt yn cymryd rhan mewn treial clinigol yn y Deyrnas Unedig o frechlyn yn erbyn y coronafeirws. Mae’r diwygiadau hefyd yn hepgor rheoliad 9 o’r prif Reoliadau fel nad oes gofyniad mwyach i bersonau o dan 18 oed ynysu ar ôl cael hysbysiad o’r fath.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn mewnosod rheoliad newydd 10A yn y prif Reoliadau i ddarparu, pan fo’n ofynnol i blentyn, neu berson y mae’r esemptiad newydd yn rheoliad 10(5) yn gymwys iddo, ynysu yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym ar ôl cael ei hysbysu ei fod wedi cael cysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws, y daw’r gofyniad i ynysu i ben ar ddechrau’r diwrnod ar 7 Awst 2021.
Nid oes unrhyw newid i’r gofynion i bersonau ynysu ar ôl cael eu hysbysu eu bod wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn—
darparu y bydd y prif Reoliadau yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 26 Tachwedd 2021 (yn hytrach na 27 Awst 2021);
dileu’r gofyniad penodol yn rheoliad 16 o’r prif Reoliadau i’r person sy’n gyfrifol am fangre reoleiddiedig gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau sydd o dan do yn y fangre (ond rhaid i’r person sy’n gyfrifol barhau i gydymffurfio â gweddill rheoliad 16 drwy gymryd pob mesur rhesymol, yn seiliedig ar asesiad risg, i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, a all gynnwys cadw pellter corfforol);
dileu’r gofynion penodol yn rheoliadau 17 a 17A o’r prif Reoliadau i bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd trwyddedig a mangreoedd manwerthu gymryd mesurau penodol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws (ond unwaith eto, rhaid i’r personau hynny barhau i gydymffurfio â rheoliad 16 o’r prif Reoliadau, a gall y mesurau y gall fod yn rhesymol eu cymryd o dan y rheoliad hwnnw gynnwys mesurau yr oedd yn ofynnol yn benodol iddynt gael eu cymryd o’r blaen o dan reoliad 17 (er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid eistedd pan weinir bwyd neu ddiod iddynt mewn mangre drwyddedig) neu reoliad 17A (er enghraifft, cyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd mewn mangre fanwerthu ar unrhyw un adeg));
dileu’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cyhoeddus o dan do mewn mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre (ond pan fo mathau gwahanol o fusnesau yn gweithredu o fangreoedd o’r fath hefyd, rhaid gwisgo gorchuddion wyneb o hyd yn y rhannau hynny o’r mangreoedd lle na werthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre).
Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill, gan gynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a nodir uchod.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 26 Tachwedd 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: