Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609) (Cy. 335)) (y “Rheoliadau Cyfyngiadau”).

Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595) (Cy. 136);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714) (Cy. 160);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726) (Cy. 163);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804) (Cy. 177);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817) (Cy. 179);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840) (Cy. 185);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868) (Cy. 190);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886) (Cy. 196);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917) (Cy. 205);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944) (Cy. 210);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/962) (Cy. 216);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2020 (O.S. 2020/981) (Cy. 220);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015) (Cy. 226);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042) (Cy. 231);

  • Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu) 2020 (O.S. 2020/942);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020 (O.S. 2020/1080) (Cy. 243);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020 (O.S. 2020/1098) (Cy. 249);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020 (O.S. 2020/1133) (Cy. 258);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2020 (O.S. 2020/1165) (Cy. 263);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191) (Cy. 269);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020 (O.S. 2020/1223) (Cy. 277);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 (O.S. 2020/1232) (Cy. 278);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237) (Cy. 279);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288) (Cy. 286);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329) (Cy. 295);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (O.S. 2020/1362) (Cy. 301);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477) (Cy. 316);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1521) (Cy. 325);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020 (O.S. 2020/1602) (Cy. 332);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645) (Cy. 345);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20) (Cy. 7);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/24) (Cy. 8);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/46) (Cy. 10);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48) (Cy. 11);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/50) (Cy. 12); a

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/66) (Cy. 15).

Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio yn flaenorol gan:

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610) (Cy. 336);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623) (Cy. 340);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645) (Cy. 345);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20) (Cy. 7);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/46) (Cy. 10);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57) (Cy. 13); a

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/66) (Cy. 15).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Mae Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn rhestru’r gwledydd hynny a’r tiriogaethau hynny sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yn rhinwedd rheoliadau 12E a 12F o’r Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 12E yn darparu, pan fo person wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth benodedig a restrir yn Atodlen 3A, ei bod yn ofynnol i’r person hwnnw ac aelodau ei aelwyd ynysu. At hynny, nid yw’r categorïau o bersonau esempt fel y’u disgrifir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys, a chaiff person adael ynysiad o dan amgylchiadau mwy cyfyngedig. Mae rheoliad 12F yn gosod cyfyngiadau ar awyrennau a llestrau sy’n cyrraedd yn uniongyrchol o wlad a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 2 yn ychwanegu’r Emiraethau Arabaidd Unedig, Gweriniaeth Burundi a Gweriniaeth Rwanda at y rhestr o wledydd a thiriogaethau yn Atodlen 3A. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag ychwanegu’r gwledydd hynny at y rhestr o wledydd a thiriogaethau yn Atodlen 3A. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn gosod gofynion ynysu llymach ar bobl sydd wedi bod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Gweriniaeth Burundi neu Weriniaeth Rwanda o fewn y cyfnod o 10 niwrnod cyn 4.00 a.m. ar 29 Ionawr 2021 ac ar unrhyw un ar yr un aelwyd â phobl o’r fath. Mae’r rhain yn wledydd lle y ceir tystiolaeth o ledaeniad cymunedol amrywiolyn newydd o’r coronafeirws.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help