xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 95 (Cy. 26)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 1.57 p.m. ar 28 Ionawr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 4.45 p.m. ar 28 Ionawr 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 29 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 29 Ionawr 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2);

(b)ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 29.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDiwygiadau i Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Ychwanegu gwledydd at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yn Atodlen 3ALL+C

2.  Yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—

Yr Emiraethau Arabaidd Unedig

Gweriniaeth Burundi

Gweriniaeth Rwanda.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 29.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2LL+C

3.  Nid yw rheoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 29.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDiwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau

Diwygiadau i’r Rheoliadau CyfyngiadauLL+C

4.—(1Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 11AA—

(a)yn y pennawd, yn lle “15 Ionawr” rhodder “29 Ionawr”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “15 Ionawr” rhodder “29 Ionawr”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “15 Ionawr” rhodder “29 Ionawr”;

(c)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig—

(a)Gweriniaeth Burundi;

(b)Gweriniaeth Rwanda;

(c)Yr Emiraethau Arabaidd Unedig.;

(d)hepgorer paragraff (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 29.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CDiwygiadau Amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio RhyngwladolLL+C

5.—(1Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1A—

(a)yn lle “6A(4)(a)” rhodder “6A(4)(c)”;

(b)hepgorer paragraff (a).

(3Ym mharagraff 7(2) o Atodlen 2, hepgorer “a pharagraff 8”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 29.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 1.57 p.m. ar 28 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609) (Cy. 335)) (y “Rheoliadau Cyfyngiadau”).

Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Mae Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn rhestru’r gwledydd hynny a’r tiriogaethau hynny sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yn rhinwedd rheoliadau 12E a 12F o’r Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 12E yn darparu, pan fo person wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth benodedig a restrir yn Atodlen 3A, ei bod yn ofynnol i’r person hwnnw ac aelodau ei aelwyd ynysu. At hynny, nid yw’r categorïau o bersonau esempt fel y’u disgrifir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys, a chaiff person adael ynysiad o dan amgylchiadau mwy cyfyngedig. Mae rheoliad 12F yn gosod cyfyngiadau ar awyrennau a llestrau sy’n cyrraedd yn uniongyrchol o wlad a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 2 yn ychwanegu’r Emiraethau Arabaidd Unedig, Gweriniaeth Burundi a Gweriniaeth Rwanda at y rhestr o wledydd a thiriogaethau yn Atodlen 3A. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag ychwanegu’r gwledydd hynny at y rhestr o wledydd a thiriogaethau yn Atodlen 3A. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn gosod gofynion ynysu llymach ar bobl sydd wedi bod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Gweriniaeth Burundi neu Weriniaeth Rwanda o fewn y cyfnod o 10 niwrnod cyn 4.00 a.m. ar 29 Ionawr 2021 ac ar unrhyw un ar yr un aelwyd â phobl o’r fath. Mae’r rhain yn wledydd lle y ceir tystiolaeth o ledaeniad cymunedol amrywiolyn newydd o’r coronafeirws.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.