xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 5(3) (dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol) mewnosoder—
“(4) Nid yw rheoliadau 2 i 4 yn gymwys mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022.
(5) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022.”
(3) Ar ôl Atodlen 3 (Dirymiadau sy’n gysylltiedig â Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol) mewnosoder yr Atodlen newydd 4 a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.