2022 Rhif 1058 (Cy. 223)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 17 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 20141.

Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2022.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 20152

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 3 (dehongli)3

Yn rheoliad 3(1)—

a

yn y diffiniad o “corff llywodraethu”, ar y diwedd mewnosoder “ac mewn perthynas ag ysgol berthnasol sy’n uned cyfeirio disgyblion, mae’n cynnwys pwyllgor rheoli’r uned cyfeirio disgyblion (os oes un)”;

b

yn y diffiniad o “pennaeth”, ar y diwedd mewnosoder “a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion”;

c

yn y diffiniad o “diwrnod gwaith”—

i

ar ôl “dydd Sul” mewnosoder “, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith”, a

ii

ar ôl “ŵyl banc” mewnosoder “yng Nghymru a Lloegr”;

d

yn y lle priodol, mewnosoder—

  • mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr un ystyr ag sydd i “pupil referral unit” yn adran 19A(2) o Ddeddf Addysg 19962;

Diwygio rheoliad 5 (corff priodol)4

Yn rheoliad 5(1)—

a

yn is-baragraff (a)—

i

hepgorer “neu” ar ôl “ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig,”, a

ii

ar ôl “(ym mhob achos o fewn ystyr y termau cyfatebol Saesneg yn Neddf 1998)” mewnosoder “, neu uned cyfeirio disgyblion”;

b

hepgorer is-baragraff (b).

Rheoliadau newydd 6A a 6B5

Ar ôl rheoliad 6 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu) mewnosoder—

Terfyn amser ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol6A

1

Rhaid i gyfnod sefydlu gael ei gwblhau’n foddhaol o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diweddaraf o blith y dyddiad pan ddyfernir statws athro neu athrawes gymwysedig, neu 7 Tachwedd 2022 (“y terfyn amser”).

2

Ond pan fo’r corff priodol yn estyn y terfyn amser yn unol â rheoliad 6B, rhaid i’r cyfnod sefydlu gael ei gwblhau’n foddhaol o fewn y terfyn amser estynedig.

Estyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol6B

1

Rhaid i’r corff priodol estyn y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) ar gyfer person (pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir, neu unrhyw gyfnod estynedig, wedi dod i ben ai peidio) pan—

a

bo cyfnod sefydlu’r person hwnnw yn cael ei estyn yn unol â rheoliad 10, 13(2)(b), 16(2)(c) neu (3)(c), a

b

na fo digon o amser ar gael o fewn y terfyn amser i’r corff priodol wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 13(2).

2

Caiff y corff priodol estyn y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) ar gyfer person (pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir, neu unrhyw gyfnod o estyniad, wedi dod i ben ai peidio) pan fo wedi ei fodloni bod rhesymau da dros wneud hynny a phan fo’r person yn cydsynio i hynny.

3

Ni chaiff estyniad, neu gyfanswm cyfnod yr estyniad pan fo mwy nag un, fod yn hwy na 2 flynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y daeth y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) i ben, onid yw’n angenrheidiol yn rhinwedd paragraff (1).

4

Rhaid i’r corff priodol, o fewn 10 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr estynnwyd y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) o dan baragraff (1) neu (2), anfon hysbysiad ysgrifenedig o’r estyniad at—

a

y person o dan sylw,

b

pan fo’r person o dan sylw yn cael ei gyflogi mewn ysgol berthnasol neu goleg AB, y corff llywodraethu a’r pennaeth,

c

pan fo’r person o dan sylw yn cael ei gyflogi mewn ysgol annibynnol, y perchennog a’r pennaeth,

d

pan na fo’r person yn cael ei gyflogi gan y corff priodol, unrhyw gyflogwr arall (os nad oes hawl ganddo i gael hysbysiad o dan (b) neu (c)), ac

e

y Cyngor.

5

Ceir rhoi hysbysiad o dan baragraff (4) drwy ffacs, y post electronig neu ddull cyffelyb arall sydd â chyfleuster i gynhyrchu dogfen sy’n cynnwys testun y cyfathrebiad, a rhaid ystyried bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o’r fath wedi ei roi pan ddaw i law mewn ffurf ddarllenadwy.

Diwygio rheoliad 7 (sefydliadau y ceir ymgymryd â chyfnod sefydlu ynddynt)6

Yn rheoliad 7, hepgorer paragraff (2)(b) a’r “, neu” o’i flaen.

Diwygio rheoliad 8 (hyd cyfnod sefydlu)7

Yn rheoliad 8—

a

ym mharagraff (1) yn lle “(3) a (4)” rhodder “(3), (4) ac (8)”;

b

ym mharagraff (3)—

i

ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “neu”,

ii

ar ddiwedd is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “; neu”, a

iii

ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

f

pan fo paragraff (8) yn gymwys.

c

ym mharagraff (4)(b) yn lle “ym mhob achos arall” rhodder “pan fo paragraff (3)(a), (b), (c) neu (e) yn gymwys”;

d

ar y diwedd mewnosoder—

8

Caiff y corff priodol, gyda chydsyniad y person o dan sylw, leihau hyd y cyfnod sefydlu y mae’n ofynnol i’r person ymgymryd ag ef i isafswm o un tymor ysgol neu 110 o sesiynau ysgol os yw’r corff priodol wedi ei fodloni bod y person wedi cyrraedd y safonau a grybwyllir yn adran 18 o Ddeddf 2014.

Diwygio rheoliad 13 (cwblhau cyfnod sefydlu)8

Yn rheoliad 13(4), yn lle “dri” rhodder “10”.

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/484 (Cy. 41)) (“y prif Reoliadau”), sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig gwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion eu cyflogaeth fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol (yn ddarostyngedig i eithriadau).

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniadau o “corff llywodraethu”, “pennaeth” a “diwrnod gwaith” yn rheoliad 3(1) o’r prif Reoliadau, ac yn mewnosod diffiniad o “uned cyfeirio disgyblion”.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5 o’r prif Reoliadau i ddarparu mai’r corff priodol ar gyfer uned cyfeirio disgyblion yw’r awdurdod sy’n ei chynnal.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau newydd 6A a 6B yn y prif Reoliadau. Mae rheoliad 6A yn cyflwyno terfyn amser ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol gan berson. Mae rheoliad 6B yn rhagnodi’r amgylchiadau y caniateir i’r terfyn amser hwnnw gael ei estyn odanynt, neu y mae rhaid i’r terfyn amser hwnnw gael ei estyn odanynt, gan gorff priodol.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 7 o’r prif Reoliadau i’w gwneud yn bosibl ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn uned cyfeirio disgyblion.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 8 o’r prif Reoliadau, i ddarparu ar gyfer lleihau hyd cyfnod sefydlu gan gorff priodol o dan amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 8 yn cynyddu hyd y cyfnod a bennir yn rheoliad 13(4) o’r prif Reoliadau, y mae’n ofynnol i’r corff priodol anfon hysbysiad o’i benderfyniad ynddo ynghylch cwblhau’r cyfnod sefydlu, i 10 niwrnod gwaith.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Addysgeg, Gyrfa Gynnar ac Ymarferwyr Cymraeg, Yr Is-adran Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu inductioninfo@llyw.cymru.