ATODLEN 2TROSEDDAU STATUDOL SYDD WEDI EU DIDDYMU
1
1
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 195661—
a
adran 1 (treisio);
b
adran 2 neu 3 (caffael menyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);
c
adran 4 (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach);
d
adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed);
e
adran 6 (cyfathrach â merch o dan 16 oed);
f
adran 14 neu 15 (ymosod anweddus);
g
adran 16 (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth);
h
adran 17 (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);
i
adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);
j
adran 24 (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall);
k
adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach);
l
adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).
2
Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)62.
3
Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach)63.
4
Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)64.
5
6
Trosedd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5 iddi neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 iddi (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)67.
7
Trosedd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 200168—
a
adran 21 (troseddau mewn perthynas â chofrestru),
b
adran 22 (datganiadau anwir mewn ceisiadau), neu
c
adran 29(10) (troseddau o dan reoliadau).
8
Trosedd o dan adran 71 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 200969 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol).
2
Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn erbyn plentyn neu sy’n ymwneud â phlentyn—
a
adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 195670 (cyfathrach â pherson diffygiol),
b
adran 9 o’r Ddeddf honno (caffael person diffygiol),
c
adran 10 o’r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn),
d
adran 11 o’r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw),
e
adran 12 o’r Ddeddf honno (sodomiaeth) ac eithrio os oedd y parti arall i’r weithred o anwedduster garw yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi cydsynio i’r weithred,
f
adran 21 o’r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad),
g
adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod),
h
adran 23 o’r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed),
i
adran 27 o’r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre i gael cyfathrach),
j
adran 29 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra),
k
adran 31 o’r Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain),
l
adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion)71,
m
adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 196772 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol),
n
adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw),
o
adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 196873 (bwrgleriaeth), neu
p
trosedd sy’n gysylltiedig â throsedd a bennir yn is-baragraffau (a) i (o).