Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1074 (Cy. 226)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022

Gwnaed

19 Hydref 2022

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3), 27(1) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”)(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adrannau 2(4) a 27(4)(a) o’r Ddeddf ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(b) oʼr Ddeddf. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi oʼr datganiad gerbron Senedd Cymru fel syʼn ofynnol gan adran 27(5) oʼr Ddeddf.

Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(b) ac (f) oʼr Ddeddf ac feʼi cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2022.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig” (“the Regulated Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(3).

Diwygiadau i’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig

2.  Mae’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

3.  Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), hepgorer y diffiniadau o “y Comisiwn Ansawdd Gofal” a “coronafeirws”.

4.  Yn rheoliad 2(1) (gwasanaethau cartrefi gofal)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (j), yn lle’r hanner colon rhodder atalnod llawn;

(b)hepgorer is-baragraff (k) a’r geiriau cloi yn union ar ei ôl.

5.  Yn rheoliad 3(1) (gwasanaethau cymorth cartref)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle’r hanner colon rhodder atalnod llawn;

(b)hepgorer is-baragraff (j) a’r geiriau cloi yn union ar ei ôl.

6.  Yn rheoliad 35 (addasrwydd staff)—

(a)ym mharagraff (2)(d), hepgorer “yn ddarostyngedig i baragraff (9A) o’r rheoliad hwn,”;

(b)hepgorer paragraff (9A).

7.  Yn rheoliad 45 (ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolion)—

(a)hepgorer paragraff (2A);

(b)yn lle paragraff (3)(c), rhodder—

(c)roedd yr holl oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol.

8.  Yn rheoliad 49 (cymhwyso Rhan 13)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle’r testun sy’n disgrifio mangre Categori C, rhodder—

Categori C: Mae’r fangre yn adeilad a oedd heb ei feddiannu yn union cyn cofrestriad y darparwr gwasanaeth ond a oedd yn cael ei ddefnyddio o’r blaen at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—

(a)at ddiben darparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad darparwr gwasanaeth arall;

(b)fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(4) i ddarparu llety mewn cartref plant, cartref gofal, neu ganolfan breswyl i deuluoedd;

(c)fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 1 neu 2 o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984(5) i ddarparu llety preswyl i bersonau y mae angen gofal personol arnynt (oherwydd henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau neu anhwylder meddwl);

(d)fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef mewn cofrestr a gedwir at ddibenion adran 60 o Ddeddf Plant 1989(6), neu o dan Ran 8 o’r Ddeddf honno, i ddarparu llety preswyl i blant.;

(b)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “gwasanaeth llety” yw gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd;

(b)mae i “cartref plant”, “cartref gofal” a “canolfan breswyl i deuluoedd” yr ystyron a roddir i “children’s home”, “care home” a “residential family centre” yn ôl eu trefn yn adrannau 1, 3 a 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel yr oedd yn cael effaith yng Nghymru yn union cyn 1 Ebrill 2017.

Darpariaeth Drosiannol

9.  Mae rheoliad 49 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn parhau i gael effaith heb y diwygiadau a wneir gan reoliad 8 mewn perthynas â chais (gan gynnwys unrhyw apêl sy’n deillio o gais o’r fath) a wneir i Weinidogion Cymru ar neu cyn 31 Hydref 2022—

(a)i gofrestru fel darparwr gwasanaeth (o dan adran 6 o’r Ddeddf);

(b)i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth (o dan adran 11 o’r Ddeddf).

Dirymu

10.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020(7) wedi eu dirymu.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Hydref 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn nodi’r gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt, ac yn eu diffinio fel “gwasanaethau rheoleiddiedig”. Mae adran 2(3) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi mewn rheoliadau nad yw gwasanaethau penodol yn “gwasanaethau rheoleiddiedig”. Mae adran 27 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i osod, mewn rheoliadau, ofynion ar ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer hwn i wneud Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1264 (Cy. 295)) (“y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig”).

Mae rheoliadau 2 i 7 yn dirymu newidiadau a wnaed i’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/570 (Cy. 131)) (“Rheoliadau 2020”) a greodd eithriadau cyfyngedig nad oeddent i’w trin fel gwasanaeth rheoleiddiedig ac a wnaeth newidiadau eraill i ofynion ar gyfer gwasanaethau penodedig fel rhan o’r ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae rheoliad 8 yn diwygio’r disgrifiad o fangre “Categori C” yn rheoliad 49 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig i ddarparu bod mangreoedd a sefydliadau, yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hwy o dan unrhyw un neu ragor o’r deddfiadau perthnasol a oedd yn darparu yn flaenorol ar gyfer rheolaeth a goruchwyliaeth reoleiddiol ar ddarparu llety a gofal, yn dod o fewn cwmpas mangre Categori C; mae rheoliad 9 yn gwneud trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiadau hyn.

Mae rheoliad 10 yn dirymu Rheoliadau 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2016 dccc 2; gweler y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189 o’r Ddeddf.

(2)

Mae’r cyfeiriadau yn adrannau 27(5) a 187(2) o’r Ddeddf at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).