Mae’r Offeryn Statudol hwn yn cywiro gwallau yn O.S. 2022/907 (Cy. 198) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2022 Rhif 1077 (Cy. 228)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 255 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20161, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.