Mae’r Offeryn Statudol hwn yn cywiro gwallau yn O.S. 2022/907 (Cy. 198) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1077 (Cy. 228)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022

Gwnaed

24 Hydref 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

25 Hydref 2022

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2022

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.11.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022LL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (diwygiadau o ganlyniad i gychwyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016)—

(a)yn lle’r pennawd i baragraff 3 (Tenantiaethau Sicr (Hysbysiad i’r Tenant) 1981(3)), yn y testun Cymraeg, rhodder “Rheoliadau Tenantiaethau Sicr (Hysbysiad i’r Tenant) 1981”;

(b)ym mharagraff 19 (Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) 1997(4)) yn is-baragraffau (b)(ii) a (iii), hepgorer “monthly”;

(c)ym mharagraff 20 (Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 (Cynlluniau Buddsoddi Torfol) 2001(5)), yn is-baragraff (a), yn lle “paragraff”, rhodder “is-baragraff”;

(d)ym mharagraff 21 (Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003(6)), yn y testun Saesneg, yn lle is-baragraff (a), rhodder—

(a)in regulation 2 (interpretation)—

(i)after the definition of “the Common Travel Area”, omit “and”;

(ii)for the full stop at the end of the definition of “the immigration rules”, substitute “; and”;

(iii)after the definition of “the immigration rules”, insert—

secure contract” (“contract diogel”) has the same meaning as in the Renting Homes (Wales) Act 2016 (see section 8 of that Act).;

(e)ym mharagraff 30 (Rheolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016(7)), ym mharagraff (b), yn y troednodyn i Ddeddf Tai 1985(8), yn lle “o Ddeddf Tai 1989”, rhodder “o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989”.

(3Yn Atodlen 2 (dirymiadau), yn y pennawd “Tabl 1”, hepgorer “1”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.11.2022, gweler rhl. 1(2)

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”) yn darparu y bydd y rhan fwyaf o denantiaethau a thrwyddedau ar gyfer anheddau y mae unigolion yn eu meddiannu fel cartrefi yng Nghymru yn gontractau meddiannaeth. Mae Deddf 2016 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contractau meddiannaeth.

Mae Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (O.S. 2022/907 (Cy. 198)) (“Rheoliadau 2022”) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth i adlewyrchu’r darpariaethau newydd yn Neddf 2016. Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro mân wallau technegol a theipograffyddol yn Rheoliadau 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.

(1)

2016 dccc 1. Diwygiwyd adran 255(2) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 ac 8 o Atodlen 5 iddi.