xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Mae’r Offeryn Statudol hwn yn cywiro gwallau yn O.S. 2022/781 (Cy. 170) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
24 Hydref 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
25 Hydref 2022
Yn dod i rym
30 Tachwedd 2022
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2022.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1971” (“the 1971 Regulations”) yw Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971(3).
3.—(1) Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 (dehongli), rhodder—
“2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 246(5));
mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 1(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(6);
mae i “categori o anheddau” yr ystyr a roddir i “category of dwellings” gan adran 30(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(7);
mae i “contract wedi ei drosi perthnasol” (“relevant converted contract”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 15(3)(8) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);
ystyr “deiliad contract perthnasol” (“relevant contract-holder”) yw deiliad contract (y mae iddo’r ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 7(5)) o dan gontract wedi ei drosi perthnasol;
mae i “y diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
ystyr “gwelliant perthnasol” (“relevant improvement”) yw gwelliant—
a wnaed yn ystod y contract wedi ei drosi perthnasol y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn gymwys iddo, neu
sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—
cafodd y gwelliant ei wneud heb fod yn fwy nag un ar hugain o flynyddoedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,
ar bob adeg yn ystod y cyfnod gan ddechrau pan gafodd y gwelliant ei wneud a chan ddod i ben ar ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, mae’r annedd wedi ei gosod o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr, a
pan ddaw tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr i ben, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ymadawodd y tenant na’r trwyddedai (neu, yn achos cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, o leiaf un ohonynt);
mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 244(2));
mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” (“assured agricultural occupancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 1(9) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);
ystyr “pwyllgor asesu rhenti” (“rent assessment committee”) yw pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977(10);
nid yw “rhent” (“rent”) yn cynnwys—
ond, yn ddarostyngedig i hynny, mae’n cynnwys unrhyw symiau sy’n daladwy gan y deiliad contract perthnasol i’r landlord am ddefnyddio dodrefn, mewn cysylltiad â’r dreth gyngor neu ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn adran 18(1)(a) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(13), pa un a yw’r symiau hynny ar wahân i’r symiau sy’n daladwy am feddiannu’r annedd o dan sylw neu’n daladwy o dan gytundebau ar wahân ai peidio;
mae i “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242(14)).”
(3) Yn rheoliad 6 (rhagdybiaethau y mae rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu rhent yn unol â hwy)—
(a)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn y testun Cymraeg—
(i)yn lle “gael ei osod”, rhodder “gael ei gosod”;
(ii)yn lle “ymwneud â hi”, rhodder “ymwneud ag ef”;
(b)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “yr un math o gontract wedi ei drosi perthnasol ag”, rhodder “gontract meddiannaeth o’r un math â’r contract wedi ei drosi perthnasol”;
(c)ym mharagraff (a), yn lle “wedi ei drosi perthnasol”, rhodder “meddiannaeth”;
(d)ym mharagraff (c), yn lle “tenant neu’r trwyddedai perthnasol”, rhodder “tenant neu’r trwyddedai,”;
(e)ym mharagraff (d)—
(i)ar ôl “fethiant gan y”, hepgorer “tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r”;
(ii)ar ôl “delerau’r”, hepgorer “denantiaeth neu’r drwydded flaenorol berthnasol neu’r”;
(iii)ar ôl “contract wedi ei drosi perthnasol”, rhodder “neu’r denantiaeth neu’r drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig”.
(4) Yn rheoliad 8 (diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971)—
(a)ym mharagraff (2)(b), sy’n mewnosod diffiniadau yn rheoliad 2 o Reoliadau 1971—
(i)hepgorer y diffiniad o “relevant preceding tenancy or licence”;
(ii)hepgorer y diffiniad o “relevant tenant or licensee”;
(iii)yn y testun Cymraeg, yn y geiriau o flaen y diffiniad o “dwelling”, yn lle “mannau”, rhodder “lleoedd”;
(b)ym mharagraff (4), yn y testun a fewnosodir yn rheoliad 3(3)(c) o Reoliadau 1971, hepgorer “, relevant tenant or licensee,”;
(c)ym mharagraff (5), sy’n diwygio rheoliad 5(1)(b) o Reoliadau 1971, yn lle is-baragraff (a), rhodder—
“(a)yn lle “assured tenancies or assured agricultural occupancies”, rhodder “assured tenancies, assured agricultural occupancies or relevant converted contracts”,”.
(5) Yn yr Atodlen, yn y ffurflen ragnodedig, ar ôl “8. Gwelliannau”, yn lle paragraff (a), rhodder—
“(a)A ydych chi neu unrhyw gyn-denant(iaid) neu drwyddedai neu drwyddedeion wedi gwneud gwelliannau neu wedi amnewid gosodiadau, ffitiadau neu ddodrefn NAD oeddech chi nac hwythau yn gyfrifol amdanynt o dan delerau’r denantiaeth neu’r drwydded/y contract meddiannaeth?”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/781 (Cy. 170)) (“Rheoliadau 2022”) yn gwneud darpariaeth i alluogi deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol i wneud cais i berson rhagnodedig bennu rhent, ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971 (O.S. 1971/1065).
Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau technegol a theipograffyddol yn Rheoliadau 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.
Diwygiwyd adran 256(2) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 a 21(a) o Atodlen 6 iddi.
2016 dccc 1. Cyflwynir Atodlen 12 gan adran 240.
Diwygiwyd adran 246(1) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 5 iddi.
1992 p. 14. Diwygiwyd adran 1(2) gan adran 35(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).
Diwygiwyd adran 30 gan adran 79 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 7 iddi.
Diwygiwyd paragraff 15(3) o Atodlen 12 i’r Ddeddf gan reoliadau 2 a 12(b) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795 (Cy. 173)).
Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 i’r Ddeddf gan reoliadau 2 a 3 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795 (Cy. 173)).
1977 p. 42. Diwygiwyd Atodlen 10 gan adrannau 71(2), 148 a 152 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51) a pharagraff 56 o Atodlen 25 iddi ac Atodlen 26 iddi, adran 26 o Ddeddf Pensiynau ac Ymddeoliadau Barnwrol 1983 (p. 8) a pharagraff 56 o Atodlen 6 iddi, adrannau 222 a 227 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 22 o Atodlen 18 iddi a Rhan 13 o Atodlen 19 iddi, adran 62(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac adran 121 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 (p. 7) a pharagraff 14 o Ran 1 o Atodlen 1 iddi. Gwnaed diwygiadau hefyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036), a ddiddymodd bwyllgorau asesu rhenti yn Lloegr, ac erthygl 5(2)(c) o Orchymyn Cyllid Llywodraeth Leol (Diddymiadau, Arbedion a Diwygiadau Canlyniadol) 1990 (O.S. 1990/776).
1985 p. 70. Diwygiwyd adran 18 gan adran 41 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddi, a chan adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15) a pharagraff 7 o Atodlen 9 iddi.
2019 dccc 2. Diwygiwyd adran 4 gan adrannau 15(2) ac 16(1) a (3) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
Diwygiwyd adran 18(1)(a) gan adran 41 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddi, ac adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15) a pharagraff 7 o Atodlen 9 iddi.
Mae diwygiadau i adran 242 o’r Ddeddf nad yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.