NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/781 (Cy. 170)) (“Rheoliadau 2022”) yn gwneud darpariaeth i alluogi deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol i wneud cais i berson rhagnodedig bennu rhent, ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971 (O.S. 1971/1065).

Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau technegol a theipograffyddol yn Rheoliadau 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.