Search Legislation

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diwygiadau i Reoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022

3.—(1Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 2 (dehongli), rhodder—

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 246(2));

mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 1(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(3);

mae i “categori o anheddau” yr ystyr a roddir i “category of dwellings” gan adran 30(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(4);

mae i “contract wedi ei drosi perthnasol” (“relevant converted contract”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 15(3)(5) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);

ystyr “deiliad contract perthnasol” (“relevant contract-holder”) yw deiliad contract (y mae iddo’r ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 7(5)) o dan gontract wedi ei drosi perthnasol;

mae i “y diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

ystyr “gwelliant perthnasol” (“relevant improvement”) yw gwelliant—

(a)

a wnaed yn ystod y contract wedi ei drosi perthnasol y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn gymwys iddo, neu

(b)

sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—

(i)

cafodd y gwelliant ei wneud heb fod yn fwy nag un ar hugain o flynyddoedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,

(ii)

ar bob adeg yn ystod y cyfnod gan ddechrau pan gafodd y gwelliant ei wneud a chan ddod i ben ar ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, mae’r annedd wedi ei gosod o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr, a

(iii)

pan ddaw tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr i ben, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ymadawodd y tenant na’r trwyddedai (neu, yn achos cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, o leiaf un ohonynt);

mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 244(2));

mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” (“assured agricultural occupancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 1(6) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);

ystyr “pwyllgor asesu rhenti” (“rent assessment committee”) yw pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977(7);

nid yw “rhent” (“rent”) yn cynnwys—

(a)

unrhyw dâl gwasanaeth o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(8), na

(b)

unrhyw daliadau a waherddir o dan adran 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019(9),

ond, yn ddarostyngedig i hynny, mae’n cynnwys unrhyw symiau sy’n daladwy gan y deiliad contract perthnasol i’r landlord am ddefnyddio dodrefn, mewn cysylltiad â’r dreth gyngor neu ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn adran 18(1)(a) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(10), pa un a yw’r symiau hynny ar wahân i’r symiau sy’n daladwy am feddiannu’r annedd o dan sylw neu’n daladwy o dan gytundebau ar wahân ai peidio;

mae i “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242(11)).

(3Yn rheoliad 6 (rhagdybiaethau y mae rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu rhent yn unol â hwy)—

(a)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn y testun Cymraeg—

(i)yn lle “gael ei osod”, rhodder “gael ei gosod”;

(ii)yn lle “ymwneud â hi”, rhodder “ymwneud ag ef”;

(b)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “yr un math o gontract wedi ei drosi perthnasol ag”, rhodder “gontract meddiannaeth o’r un math â’r contract wedi ei drosi perthnasol”;

(c)ym mharagraff (a), yn lle “wedi ei drosi perthnasol”, rhodder “meddiannaeth”;

(d)ym mharagraff (c), yn lle “tenant neu’r trwyddedai perthnasol”, rhodder “tenant neu’r trwyddedai,”;

(e)ym mharagraff (d)—

(i)ar ôl “fethiant gan y”, hepgorer “tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r”;

(ii)ar ôl “delerau’r”, hepgorer “denantiaeth neu’r drwydded flaenorol berthnasol neu’r”;

(iii)ar ôl “contract wedi ei drosi perthnasol”, rhodder “neu’r denantiaeth neu’r drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig”.

(4Yn rheoliad 8 (diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971)—

(a)ym mharagraff (2)(b), sy’n mewnosod diffiniadau yn rheoliad 2 o Reoliadau 1971—

(i)hepgorer y diffiniad o “relevant preceding tenancy or licence”;

(ii)hepgorer y diffiniad o “relevant tenant or licensee”;

(iii)yn y testun Cymraeg, yn y geiriau o flaen y diffiniad o “dwelling”, yn lle “mannau”, rhodder “lleoedd”;

(b)ym mharagraff (4), yn y testun a fewnosodir yn rheoliad 3(3)(c) o Reoliadau 1971, hepgorer “, relevant tenant or licensee,”;

(c)ym mharagraff (5), sy’n diwygio rheoliad 5(1)(b) o Reoliadau 1971, yn lle is-baragraff (a), rhodder—

(a)yn lle “assured tenancies or assured agricultural occupancies”, rhodder “assured tenancies, assured agricultural occupancies or relevant converted contracts”,.

(5Yn yr Atodlen, yn y ffurflen ragnodedig, ar ôl “8. Gwelliannau”, yn lle paragraff (a), rhodder—

(a)A ydych chi neu unrhyw gyn-denant(iaid) neu drwyddedai neu drwyddedeion wedi gwneud gwelliannau neu wedi amnewid gosodiadau, ffitiadau neu ddodrefn NAD oeddech chi nac hwythau yn gyfrifol amdanynt o dan delerau’r denantiaeth neu’r drwydded/y contract meddiannaeth?.

(2)

Diwygiwyd adran 246(1) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 5 iddi.

(3)

1992 p. 14. Diwygiwyd adran 1(2) gan adran 35(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).

(4)

Diwygiwyd adran 30 gan adran 79 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 7 iddi.

(5)

Diwygiwyd paragraff 15(3) o Atodlen 12 i’r Ddeddf gan reoliadau 2 a 12(b) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795 (Cy. 173)).

(6)

Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 i’r Ddeddf gan reoliadau 2 a 3 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795 (Cy. 173)).

(7)

1977 p. 42. Diwygiwyd Atodlen 10 gan adrannau 71(2), 148 a 152 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51) a pharagraff 56 o Atodlen 25 iddi ac Atodlen 26 iddi, adran 26 o Ddeddf Pensiynau ac Ymddeoliadau Barnwrol 1983 (p. 8) a pharagraff 56 o Atodlen 6 iddi, adrannau 222 a 227 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 22 o Atodlen 18 iddi a Rhan 13 o Atodlen 19 iddi, adran 62(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac adran 121 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 (p. 7) a pharagraff 14 o Ran 1 o Atodlen 1 iddi. Gwnaed diwygiadau hefyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036), a ddiddymodd bwyllgorau asesu rhenti yn Lloegr, ac erthygl 5(2)(c) o Orchymyn Cyllid Llywodraeth Leol (Diddymiadau, Arbedion a Diwygiadau Canlyniadol) 1990 (O.S. 1990/776).

(8)

1985 p. 70. Diwygiwyd adran 18 gan adran 41 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddi, a chan adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15) a pharagraff 7 o Atodlen 9 iddi.

(9)

2019 dccc 2. Diwygiwyd adran 4 gan adrannau 15(2) ac 16(1) a (3) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.

(10)

Diwygiwyd adran 18(1)(a) gan adran 41 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddi, ac adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15) a pharagraff 7 o Atodlen 9 iddi.

(11)

Mae diwygiadau i adran 242 o’r Ddeddf nad yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources