2022 Rhif 111 (Cy. 39)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 74(1) a 75(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 20211, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Mawrth 2022.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

  • mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 19962.

  • mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996.

2

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at y darpariaethau a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd gan Atodlen 2 i Ddeddf 2021 fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn i Atodlen 2 i Ddeddf 2021 ddod i rym.

3

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at blentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo “o dan yr hen gwricwlwm” yn gyfeiriadau at y plant hynny a’r disgyblion hynny y mae Rhan 2, 3, neu 5 o Ddeddf 2021 yn gymwys iddynt, ond nad yw’r Rhan berthnasol o’r Ddeddf honno wedi dod i rym eto mewn perthynas â hwy.

Darpariaeth arbed a darpariaeth drosiannol3

1

Er gwaethaf cychwyn adran 73 o Ddeddf 2021, ac Atodlen 2 iddi, mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith—

a

mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm, a

b

mewn perthynas ag addysg a ddarperir felly.

2

Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar 1 Medi 2028.

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer plant a disgyblion yng Nghymru (“y Cwricwlwm newydd i Gymru”).

Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno i blant a disgyblion fesul cam. Daw’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—

a

ar 1 Medi 2022 ar gyfer—

i

plant sy’n cael addysg feithrin,

ii

disgyblion yn eu blwyddyn derbyn,

iii

disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,

b

ar 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion hynny a’r lleoliadau eraill hynny lle y mae cwricwlwm wedi ei ddarparu yn unol â Deddf 2021,

c

ar 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion sydd, ar 1 Medi 2022, ym mlwyddyn 7 ac nad ydynt o fewn paragraff (b),

d

ar 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 8,

e

ar 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,

f

ar 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

g

ar 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant a disgyblion y darperir addysg iddynt—

a

mewn ysgolion a gynhelir,

b

mewn ysgolion meithrin a gynhelir,

c

gan ddarparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

d

mewn unedau cyfeirio disgyblion, ac

e

gan bersonau sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996.

Cychwynnwyd Rhan 7 o Ddeddf 2021, gan gynnwys adran 73 ac Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau), gan adran 84(1) o Ddeddf 2021 ar 30 Ebrill 2021, drannoeth y Cydsyniad Brenhinol. Er mwyn darparu ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru fesul cam mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth arbed a darpariaeth drosiannol mewn perthynas â’r plant hynny a’r disgyblion hynny nad yw addysg yn cael ei darparu iddynt eto o dan y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.