Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1156 (Cy. 239)

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

8 Tachwedd 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Tachwedd 2022

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022.

(2Mae’n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2022.

Diwygio Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010

2.—(1Mae Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y tabl yn yr Atodlen, ym mhob lle y mae’n digwydd, hepgorer “+ TAW”.

Diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018

3.—(1Mae Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn nhestun Saesneg erthygl 2, yn y diffiniad o “collection centre”, yn lle “a premises” rhodder “premises”.

(3Yn lle’r Atodlen rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Darpariaeth drosiannol

4.  Nid yw’r diwygiadau a wneir gan erthyglau 2 a 3 yn cael unrhyw effaith mewn perthynas ag unrhyw ffi a godir mewn perthynas â chais sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

8 Tachwedd 2022

Erthygl 3(3)

YR ATODLEN

Erthygl 3

YR ATODLEN

Tabl 1

Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt wedi eu heithrio o dan erthygl 3(4) o’r Gorchymyn hwn

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
GweithgareddFfi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynnyFfi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar ôl 30 Tachwedd 2023
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu.318379
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 90 o funudau o amser arolygu.550685
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal un ymweliad arolygu yn unig er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygu.279340
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol felly cynnal dau ymweliad arolygu er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 75 o funudau o amser arolygu.414486

Tabl 2

Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd nad ydynt wedi eu heithrio o dan erthygl 3(4) o’r Gorchymyn hwn

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
GweithgareddFfi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynnyFfi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar ôl 30 Tachwedd 2023
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.175236
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu.327408
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu nad yw ymweliad arolygu yn ofynnol.130168
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.141171
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod mwy nag ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.193229

Tabl 3

Ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
GweithgareddFfi (£) am ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynnyFfi (£) am ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar ôl 30 Tachwedd 2023
Ymweliad milfeddygol ychwanegol at ddiben ystyried cais am drwydded, adnewyddu trwydded yn flynyddol neu ymweliad dilynol yn sgil peidio â chydymffurfio, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw.246318
Ymweliad milfeddygol at ddiben ystyried cais am newid gweithredol yn ystod y flwyddyn, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw.246318
Tâl atodol ar unrhyw ymweliad pan fo’r amser arolygu milfeddygol yn hwy na’r amser penodedig a ddarperir yn yr Atodlen hon.22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan arolygydd milfeddygol yn teithio i’r fangre drwyddedig, neu’r fangre y bwriedir ei thrwyddedu, ac oddi yno, at ddiben gweithgareddau trwyddedu nad ydynt wedi eu heithrio rhag ffioedd o dan erthygl 3(4) o’r Gorchymyn hwn.22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 13222 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 132

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio—

(a)Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1781) (Cy. 170) (“y Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod”); a

(b)Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/645) (Cy. 119) (“y Gorchymyn Ffioedd Crynoadau Anifeiliaid”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu darpariaethau yn y Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod sy’n darparu ar hyn o bryd fod Treth ar Werth (TAW) yn cael ei hychwanegu at ffioedd a godir o dan y Gorchymyn hwnnw. Mae hefyd yn cynyddu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a ddarperir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion mewn perthynas â’r Gorchymyn Ffioedd Crynoadau Anifeiliaid.

Mae erthygl 2 yn diwygio’r Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod er mwyn hepgor y geiriau “+ TAW” bob tro y maent yn digwydd yn y tabl yn yr Atodlen, fel nad yw TAW yn daladwy bellach mewn cysylltiad â’r ffioedd a nodir yn y tabl.

Mae erthygl 3 yn diwygio’r Gorchymyn Ffioedd Crynoadau Anifeiliaid er mwyn rhoi, yn lle’r Atodlen, Atodlen newydd sy’n darparu ar gyfer ffioedd uwch ar gyfer trwyddedu mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid. Mae’r Atodlen newydd yn darparu fel a ganlyn.

(a)Mae Tabl 1 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt yn esempt o dan erthygl 3(4). Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ceisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 3 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 48% (rhes 3), 65% (rhes 4), 57% (rhes 5) a 42% (rhes 6).

(b)Mae Tabl 2 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd nad ydynt yn esempt o dan erthygl 3(4). Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ceisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 3 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 107% (rhes 3), 67% (rhes 4), 85% (rhes 5), 55% (rhes 6) a 46% (rhes 7).

(c)Mae Tabl 3 yn nodi ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd. Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 3 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 84% (rhesi 3 a 4), 38% (rhes 5) a 5% (rhes 6).

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chais a wneir cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1981 p. 22. Diffinnir y term “the Ministers” yn adran 86(1)(c). Mae swyddogaethau a roddwyd i “the Ministers” o dan y Ddeddf, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Senedd Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru. Yn rhinwedd paragraff 7 o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r gofyniad i gael cymeradwyaeth y Trysorlys yn adran 84(1) wedi ei ddatgymhwyso.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources