Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Yn dod i rym
am 10.33 a.m. ar 9 Tachwedd 2022
Coming into force
1 Rhagfyr 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 255 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).
Yn unol ag adran 256(3) a (5) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru(2) ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
2016 dccc 1. Diwygiwyd adran 255(2) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi.
Mae’r cyfeiriad yn adran 256(3) a (5) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).