Deddf Cyfraith Teulu 1996LL+C

24.—(1Mae Deddf Cyfraith Teulu 1996(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 30(2) (hawliau sy’n ymwneud â chartref pan nad oes gan un briod neu bartner sifil unrhyw ystad etc.) yn is-adran (4)(b)—

(a)ar ôl “Chapter 1 of Part 5 of the Housing Act 1996”, rhodder “,” yn lle “and”;

(b)ar ôl “the Prevention of Social Housing Fraud Act 2013”, mewnosoder “and the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1)”.

(3Yn Atodlen 7 (trosglwyddo tenantiaethau penodol ar ôl ysgaru etc. neu ar ôl i’r cwpwl sy’n cyd-fyw wahanu)—

(a)ym mharagraff 1(3) (dehongli), yn y diffiniad o “a relevant tenancy”—

(i)ar ddiwedd paragraff (d), hepgorer “or”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (e), mewnosoder “or”;

(iii)ar ôl paragraff (e), mewnosoder—

(f)an occupation contract within the meaning of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1) (see section 7).;

(b)ym mharagraff 7(4) (tenantiaeth warchodedig, ddiogel neu sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr)—

(i)yn is-baragraff (1)—

(aa)ar ôl “Part 1 of the Housing Act 1988”, yn lle “or”, rhodder “,”;

(bb)ar ôl “Chapter 1 of Part V of the Housing Act 1996”, mewnosoder “or an occupation contract within the meaning of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1) (see section 7)”;

(ii)ar ôl is-baragraff (6), mewnosoder—

(7) If the spouse, civil partner or cohabitant so entitled is a priority successor within the meaning of section 75 of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1)

(a)the former spouse (or, in the case of judicial separation, the spouse),

(b)the former civil partner (or, if a separation order is in force, the civil partner), or

(c)the former cohabitant,

of the priority successor is to be deemed also to be a successor within the meaning of that section.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 24 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(1)

(2)

Diwygiwyd adran 30 gan adran 82 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 9 iddi, erthygl 2 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Diwygiadau Canlyniadol) 1997 (O.S. 1997/74) a pharagraff 10 o Atodlen 1 iddo, ac adran 10 o Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (p. 3) a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi.

(3)

Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 7 gan adran 82 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 16 o Ran 1 o Atodlen 9 iddi, adran 17(6) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22) a pharagraffau 129 a 145 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, ac erthygl 2 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Diwygiadau Canlyniadol) 1997 (O.S. 1997/74) a pharagraff 10 o’r Atodlen iddo.

(4)

Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 7 gan baragraff 16 o Atodlen 9 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) ac erthygl 2 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Diwygiadau Canlyniadol) 1997 (O.S. 1997/74) a pharagraff 10 o Atodlen 1 iddo.