Search Legislation

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 4

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/12/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022, Adran 4 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 06 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Deddf Lluoedd Wrth Gefn a Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951LL+C

4.—(1Mae Deddf Lluoedd Wrth Gefn a Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 20(2) (addasiadau i’r Deddfau Rhenti mewn cysylltiad â meddiannu gan gyflogeion), yn is-adran (1), ar ôl “broken or not performed)”, mewnosoder “or the ground in section 157 of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1) (which relates to breach of contract)”.

(3Yn adran 22(3) (hwyluso gweithredu ar ran dynion sy’n gwasanaethu dramor mewn achosion sy’n ymwneud â thenantiaethau), yn is-adran (1)—

(a)ar ôl “or under Part 1 of the Housing Act 1988,”, mewnosoder “or under Part 9 of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1) (termination etc of occupation contracts),”;

(b)o flaen “or under this Part of this Act”, mewnosoder “or under the Renting Homes (Wales) Act 2016,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(1)

(2)

Diwygiwyd adran 20 gan adran 117(2) o Ddeddf Rhenti 1968 (p. 23) ac Atodlen 15 iddi, adran 155 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) a pharagraff 8 o Atodlen 23 iddi, adran 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) a Rhan 1 o Atodlen 17 iddi, adran 99 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13) a pharagraffau 69 ac 71 o Ran 3 o Atodlen 16 iddi, ac adran 190 o Ddeddf Dŵr 1989 (p. 15) a pharagraff 16 o Atodlen 25 iddi.

(3)

Diwygiwyd adran 22 gan adran 117(2) o Ddeddf Rhenti 1968 (p. 23) ac Atodlen 15 iddi, adran 12 o Ddeddf Gwarchodaeth Rhag Troi Allan 1977 (p. 43) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, adran 155 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) a pharagraff 9 o Atodlen 23 iddi, adran 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) a Rhan 1 o Atodlen 17 iddi, adran 13 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol (Hysbysiadau Ymadael) 1977 (p. 12) ac Atodlen 2 iddi, ac erthygl 6(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

Back to top

Options/Help