RHAN 1Achosion Adennill Meddiant

Tenantiaethau diogelI12

1

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

a

adran 83(1)17 (achosion adennill meddiant neu derfynu: gofynion hysbysu cyffredinol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig;

b

adran 83ZA(2)18 (gofynion hysbysu mewn perthynas ag achos adennill meddiant ar sail absoliwt oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

c

adran 83A(1)19 (gofynion ychwanegol mewn perthynas ag achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

d

adran 83A(2)20, mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

e

adran 83A(3)21, mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

f

adran 83A(4)22 a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a ychwanegir Sail 2A o Atodlen 2 i Ddeddf 1985 at yr hysbysiad hwnnw cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

g

adran 83A(5)23, mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

h

adran 84(1)24 (seiliau meddiant a gorchmynion adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

i

adran 84(2)25, mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

j

adran 84(3)26, mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

k

adran 84(4)27, mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83(3) o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

l

adran 84A(1) i (9)28 (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

m

adran 8529 (disgresiwn estynedig y llys mewn achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

n

adran 85ZA(1) a (2)30 (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant ar sail absoliwt am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

o

adran 85ZA(3) i (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

p

adran 85A31 (achosion adennill meddiant ar seiliau nad ydynt yn rhai absoliwt: ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

q

Atodlen 232 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

r

Atodlen 2A33 (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol: troseddau difrifol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

2

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022—

a

mae adran 83(3)(b) ac 83(4)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “twelve months after the date so specified, or six months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “twelve months after the date so specified”,

b

mae adran 83ZA(9)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “12 months after the date so specified, or 6 months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “12 months after the date so specified”, ac

c

mae cyfeiriad at adeg pan fo’r hysbysiad yn parhau i fod mewn grym yn adran 83A(1) a (2) o Ddeddf 1985 (fel y’i harbedir gan baragraff (1)(c) a (d) o’r rheoliad hwn) i’w ddarllen yn unol â hynny.

3

Mae paragraff (2) o’r rheoliad hwn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

4

Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys yn unol ag adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

5

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022 a Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Sail Absoliwt ar gyfer Meddiannu am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) (Y Weithdrefn Adolygu) (Cymru) 201434 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 85ZA o Ddeddf 1985 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

6

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 82(2)35 o Ddeddf 1985 (diogelwch deiliadaeth) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

7

Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

8

Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo yn cael effaith pa un a oedd y llys wedi hepgor y gofyniad i gyflwyno hysbysiad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Tenantiaethau sicrI23

1

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

a

adran 736 (gorchmynion adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 837 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

b

adran 8(1)38 (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

c

adran 8(2), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

d

adran 8(5)39, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig pan na fo’r llys hyd hynny wedi arfer ei bŵer a roddir gan adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988;

e

adran 8A(1)40 (gofynion hysbysu ychwanegol: sail trais domestig), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig;

f

adran 8A(2) a (3), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig (pa un a ychwanegir Sail 14A cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

g

adran 941 (disgresiwn estynedig y llys mewn hawliadau meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

h

adran 9A42 (achos adennill meddiant ar seiliau nad ydynt yn rhai absoliwt: ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

i

adran 10(2) (darpariaethau arbennig sy’n gymwys i lety a rennir), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

j

adrannau 11 (talu costau symud dodrefn mewn achosion penodol) a 12 (digolledu am gamliwio neu gelu), mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn);

k

adran 21(1)43 (adennill meddiant pan fo tenantiaeth fyrddaliol sicr yn dod i ben neu’n cael ei therfynu), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r is-adran honno cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (5));

l

adran 21(4)44, mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r is-adran honno cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (5));

m

adran 21(5)45 a (5A)46, mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan is-adran (1) neu (4) o’r adran honno ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn);

n

Atodlen 247 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo.

2

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022—

a

mae adran 8(3)(c) o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig, ond fel pe bai “twelve months from the date of service of the notice, or six months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “twelve months from the date of service of the notice”, a

b

mae cyfeiriad at y terfynau amser a nodir yn yr hysbysiad yn adran 8(1)(a) (fel y’i harbedir gan baragraff (1)(b) o’r rheoliad hwn) i’w ddarllen yn unol â hynny.

3

Mae paragraff (2) o’r rheoliad hwn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig.

4

Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 7 neu 21 o Ddeddf 1988 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

5

Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

a

ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

b

ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y mae adennill meddiant yn ofynnol yn unol ag adran 21(1)(b) neu (4)(a) o Ddeddf 1988,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

6

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 5(1A)48 o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 7 neu 21 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig.

7

Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 neu 21 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

8

Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo yn cael effaith pa un a oedd y llys wedi hepgor y gofyniad i gyflwyno hysbysiad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Tenantiaethau rhagarweiniolI34

1

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

a

adran 127(2)49 (achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

b

adran 128(1) a (5) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

c

adran 129(1) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

d

adran 129(2), (5) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad, neu pa un a gynhaliwyd yr adolygiad, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

e

adran 130(1) i (3)50 (effaith dechrau achos adennill meddiant), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ar gyfer adennill meddiant o dŷ annedd a osodwyd o dan denantiaeth ragarweiniol a ddaeth i ben cyn y diwrnod hwnnw yn unol â’r adran honno.

2

Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 127 o Ddeddf 1996 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

3

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 127(1) ac (1A) o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan yr adran honno cyn y diwrnod penodedig.

4

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaid Rhagarweiniol (Adolygu) 199751 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 129 o Ddeddf 1996 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

5

Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant o dan adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

a

ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

b

ar ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y caniateir dechrau achos ar ei ôl yn unol ag adran 128(4) o Ddeddf 1996,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

6

Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Tenantiaethau israddI45

1

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

a

adran 143D(2)52 (achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E53 cyn y diwrnod penodedig;

b

adran 143E(1) a (4) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig;

c

adran 143F(1)54 (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig;

d

adran 143F(2), (5) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad, neu pa un a gynhaliwyd yr adolygiad, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

e

adran 143G55 (effaith achos adennill meddiant), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ar gyfer adennill meddiant o dŷ annedd a osodwyd o dan denantiaeth isradd a ddaeth i ben cyn y diwrnod hwnnw yn unol â’r adran honno.

2

Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 143D(2) o Ddeddf 1996 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

3

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 143D(1) ac (1A) o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan yr adran honno cyn y diwrnod penodedig.

4

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 200556 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan adran 143F o Ddeddf 1996 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiadau, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

5

Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant o dan adran 143E o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

a

ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

b

ar ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y caniateir dechrau achos ar ei ôl yn unol ag adran 143E(2)(c) o Ddeddf 1996,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

6

Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.