xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CAchosion Adennill Meddiant

Tenantiaethau diogelLL+C

2.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 83(1)(1) (achosion adennill meddiant neu derfynu: gofynion hysbysu cyffredinol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 83ZA(2)(2) (gofynion hysbysu mewn perthynas ag achos adennill meddiant ar sail absoliwt oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

(c)adran 83A(1)(3) (gofynion ychwanegol mewn perthynas ag achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

(d)adran 83A(2)(4), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

(e)adran 83A(3)(5), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(f)adran 83A(4)(6) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a ychwanegir Sail 2A o Atodlen 2 i Ddeddf 1985 at yr hysbysiad hwnnw cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

(g)adran 83A(5)(7), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(h)adran 84(1)(8) (seiliau meddiant a gorchmynion adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(i)adran 84(2)(9), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(j)adran 84(3)(10), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(k)adran 84(4)(11), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83(3) o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(l)adran 84A(1) i (9)(12) (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(m)adran 85(13) (disgresiwn estynedig y llys mewn achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(n)adran 85ZA(1) a (2)(14) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant ar sail absoliwt am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(o)adran 85ZA(3) i (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

(p)adran 85A(15) (achosion adennill meddiant ar seiliau nad ydynt yn rhai absoliwt: ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(q)Atodlen 2(16) (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(r)Atodlen 2A(17) (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol: troseddau difrifol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022—

(a)mae adran 83(3)(b) ac 83(4)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “twelve months after the date so specified, or six months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “twelve months after the date so specified”,

(b)mae adran 83ZA(9)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “12 months after the date so specified, or 6 months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “12 months after the date so specified”, ac

(c)mae cyfeiriad at adeg pan fo’r hysbysiad yn parhau i fod mewn grym yn adran 83A(1) a (2) o Ddeddf 1985 (fel y’i harbedir gan baragraff (1)(c) a (d) o’r rheoliad hwn) i’w ddarllen yn unol â hynny.

(3Mae paragraff (2) o’r rheoliad hwn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

(4Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys yn unol ag adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(5Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022 a Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Sail Absoliwt ar gyfer Meddiannu am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) (Y Weithdrefn Adolygu) (Cymru) 2014(18) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 85ZA o Ddeddf 1985 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(6Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 82(2)(19) o Ddeddf 1985 (diogelwch deiliadaeth) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

(7Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(8Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo yn cael effaith pa un a oedd y llys wedi hepgor y gofyniad i gyflwyno hysbysiad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Tenantiaethau sicrLL+C

3.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 7(20) (gorchmynion adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8(21) o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(b)adran 8(1)(22) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

(c)adran 8(2), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

(d)adran 8(5)(23), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig pan na fo’r llys hyd hynny wedi arfer ei bŵer a roddir gan adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988;

(e)adran 8A(1)(24) (gofynion hysbysu ychwanegol: sail trais domestig), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig;

(f)adran 8A(2) a (3), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig (pa un a ychwanegir Sail 14A cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

(g)adran 9(25) (disgresiwn estynedig y llys mewn hawliadau meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(h)adran 9A(26) (achos adennill meddiant ar seiliau nad ydynt yn rhai absoliwt: ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(i)adran 10(2) (darpariaethau arbennig sy’n gymwys i lety a rennir), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(j)adrannau 11 (talu costau symud dodrefn mewn achosion penodol) a 12 (digolledu am gamliwio neu gelu), mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn);

(k)adran 21(1)(27) (adennill meddiant pan fo tenantiaeth fyrddaliol sicr yn dod i ben neu’n cael ei therfynu), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r is-adran honno cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (5));

(l)adran 21(4)(28), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r is-adran honno cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (5));

(m)adran 21(5)(29) a (5A)(30), mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan is-adran (1) neu (4) o’r adran honno ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn);

(n)Atodlen 2(31) (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022—

(a)mae adran 8(3)(c) o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig, ond fel pe bai “twelve months from the date of service of the notice, or six months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “twelve months from the date of service of the notice”, a

(b)mae cyfeiriad at y terfynau amser a nodir yn yr hysbysiad yn adran 8(1)(a) (fel y’i harbedir gan baragraff (1)(b) o’r rheoliad hwn) i’w ddarllen yn unol â hynny.

(3Mae paragraff (2) o’r rheoliad hwn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig.

(4Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 7 neu 21 o Ddeddf 1988 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(5Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

(b)ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y mae adennill meddiant yn ofynnol yn unol ag adran 21(1)(b) neu (4)(a) o Ddeddf 1988,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(6Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 5(1A)(32) o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 7 neu 21 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig.

(7Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 neu 21 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(8Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo yn cael effaith pa un a oedd y llys wedi hepgor y gofyniad i gyflwyno hysbysiad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Tenantiaethau rhagarweiniolLL+C

4.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 127(2)(33) (achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 128(1) a (5) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

(c)adran 129(1) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

(d)adran 129(2), (5) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad, neu pa un a gynhaliwyd yr adolygiad, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

(e)adran 130(1) i (3)(34) (effaith dechrau achos adennill meddiant), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ar gyfer adennill meddiant o dŷ annedd a osodwyd o dan denantiaeth ragarweiniol a ddaeth i ben cyn y diwrnod hwnnw yn unol â’r adran honno.

(2Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 127 o Ddeddf 1996 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(3Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 127(1) ac (1A) o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan yr adran honno cyn y diwrnod penodedig.

(4Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaid Rhagarweiniol (Adolygu) 1997(35) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 129 o Ddeddf 1996 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(5Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant o dan adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

(b)ar ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y caniateir dechrau achos ar ei ôl yn unol ag adran 128(4) o Ddeddf 1996,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

(6Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Tenantiaethau israddLL+C

5.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 143D(2)(36) (achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E(37) cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 143E(1) a (4) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig;

(c)adran 143F(1)(38) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig;

(d)adran 143F(2), (5) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad, neu pa un a gynhaliwyd yr adolygiad, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

(e)adran 143G(39) (effaith achos adennill meddiant), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ar gyfer adennill meddiant o dŷ annedd a osodwyd o dan denantiaeth isradd a ddaeth i ben cyn y diwrnod hwnnw yn unol â’r adran honno.

(2Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 143D(2) o Ddeddf 1996 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(3Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 143D(1) ac (1A) o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan yr adran honno cyn y diwrnod penodedig.

(4Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2005(40) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan adran 143F o Ddeddf 1996 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiadau, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(5Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant o dan adran 143E o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

(b)ar ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y caniateir dechrau achos ar ei ôl yn unol ag adran 143E(2)(c) o Ddeddf 1996,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

(6Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

(1)

Amnewidiwyd adran 83 gan adran 147(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), diwygiwyd y pennawd ac is-adran (1) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraff 7(1), (2) a (4) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 83 o Ddeddf 1985 nad yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mewnosodwyd adran 83ZA gan adran 95 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12).

(3)

Amnewidiwyd adran 83A gan adran 147(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(4)

Diwygiwyd adran 83A(2) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1), (2) a (3) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(5)

Diwygiwyd adran 83A(3) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(6)

Diwygiwyd adran 83A(4) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1) a (5) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(7)

Diwygiwyd adran 83A(5)gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1), (5) a (6) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(8)

Diwygiwyd adran 84(1) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 9(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, adran 155(2) o Ran 7 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) ac adran 118 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22), a pharagraffau 2 a 9 o Atodlen 7 iddi.

(9)

Diwygiwyd adran 84(2) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 9(1) a (3) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(10)

Amnewidiwyd adran 84(3) gan adran 147(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) ac fe’i diwygiwyd gan adran 181 oDdeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 9(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(11)

Amnewidiwyd adran 84(4) gan adran 147(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(12)

Mewnosodwyd adran 84A gan adran 94(1) o Ran 5 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a diwygiwyd is-adran (5) gan adran 410 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) a pharagraff 84 o Ran 1 o Atodlen 24 iddi.

(13)

Diwygiwyd adran 85 gan adran 66(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 53(2) a (3) o Atodlen 8 iddi ac adrannau 299 a 321(1) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 1 a 3 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, ac Atodlen 16 iddi.

(14)

Mewnosodwyd adran 85ZA gan adran 96 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12).

(15)

Mewnosodwyd adran 85A gan adran 16(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan adran 181 oDdeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 10 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(16)

Diwygiwyd Atodlen 2 gan adrannau 144, 145 a 146 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), adran 83(6) o Ddeddf Tai 1988 (p. 50), adran 222 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a pharagraffau 9 ac 16 o Atodlen 22 iddi, adrannau 98(1) a 99(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), adran 111 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 45 o Ran 3 o Atodlen 7 iddi, adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 33 o Atodlen 8 iddi, adran 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) a Rhan 4 o Atodlen 18 iddi, rheoliad 41(a) o Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458) a pharagraff 10 o Ran 1 o Atodlen 3 iddynt ac erthygl 4 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2008 (O.S. 2008/3002) a pharagraffau 2 a 29 o Atodlen 1 iddo.

(17)

Mewnosodwyd Atodlen 2A gan adran 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) ac Atodlen 3 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan adran 70 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (p. 17) a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi ac erthygl 2 o Orchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/173 (Cy. 74)).

(19)

Amnewidiwyd adran 82(2) gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi ac fe’i diwygiwyd gan adran 119 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22). Mewnosodwyd is-adran (A1) gan adran 119 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a mewnosodwyd is-adran (1A) gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 a pharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(20)

Diwygiwyd adran 7 gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 101 o Atodlen 11 iddi, adran 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19), adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraff 18 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, adran 162(4) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) ac adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 a 7 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(21)

Diwygiwyd adran 8 gan adran 151 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), adran 97 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), ac adran 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19).

(22)

Diwygiwyd adran 8(1) gan adran 151(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(23)

Diwygiwyd is-adran 8(5) gan adran 97 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) ac adran 41(4) o Ran 2 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19).

(24)

Mewnosodwyd adran 8A gan adran 150 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(25)

Diwygiwyd adran 9 gan adrannau 299 a 321 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 ac 8 o Ran 1 o Atodlen 11 ac Atodlen 16 iddi ac adran 66(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 59(3) o Atodlen 8 iddi.

(26)

Mewnosodwyd adran 9A gan adran 16(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan adran 181 oDdeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraff 19 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(27)

Diwygiwyd adran 21(1) gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 103 o Atodlen 11 iddi ac adran 98(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(28)

Diwygiwyd adran 21(4) gan adran 98(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(29)

Mewnosodwyd adran 21(5) gan adran 99 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(30)

Mewnosodwyd adran 21(5A) gan adran 15(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38).

(31)

Diwygiwyd Atodlen 2 gan adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 43 o Atodlen 8 iddi, adran 138 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraffau 108 a 109 o Atodlen 11 iddi, adran 60(2)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p. 19) a pharagraff 10 o Ran 2 o Atodlen 8 iddi, adrannau 101, 102, 148, 149 a 277 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a Rhan 9 o Atodlen 19 iddi, adran 6(2) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17) a pharagraff 28 o Atodlen 5 iddi, adran 111 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 46 o Ran 3 o Atodlen 7 iddi, adrannau 162 a 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a Rhan 23 o Atodlen 25 iddi, adrannau 97(1), 98(2) a 99(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), adran 410 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) a pharagraff 97 o Ran 1 o Atodlen 24 iddi, adran 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19), erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Darpariaethau Canlyniadol) 1996 (O.S. 1996/2325) a pharagraff 18 o Atodlen 2 iddo, erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2010 (O.S. 2010/866) a pharagraffau 18, 63 a 74 o Atodlen 2 iddo, rheoliad 41(a) o Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458) a pharagraff 12 o Ran 1 o Atodlen 3 iddynt, rheoliad 8 o Reoliadau Deddf Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) 2020 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Arbed, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Darfodol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1309).

(32)

Amnewidiwyd adran 5(1A) gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 a 6 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(33)

Diwygiwyd adran 127 gan adrannau 299 a 321 oDdeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 10 ac 11 o Ran 1 o Atodlen 11 ac Atodlen 16 iddi.

(34)

Diwygiwyd adran 130 gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 10 a 12 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(36)

Mewnosodwyd adran 143D gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac fe’i diwygiwyd gan adrannau 299 a 321 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 10 a 13 o Ran 1 o Atodlen 11 ac Atodlen 16 iddi.

(37)

Mewnosodwyd adran 143E gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.

(38)

Mewnosodwyd adran 143F gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.

(39)

Mewnosodwyd adran 143G gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.