xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CPennu’r Rhent

Pennu’r RhentLL+C

10.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 13(4)(1) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 14(2) (pennu’r rhent gan dribiwnlys) (heblaw is-adran (6)), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 13 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wneir y cais o dan adran 13(4)(a) cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

(c)adran 22(3), (4)(a) a (b), a (5)(3) (atgyfeirio rhenti gormodol i’r tribiwnlys priodol), mewn perthynas â chais a wnaed o dan is-adran (1) o’r adran honno cyn y diwrnod penodedig.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971(4) yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â phenderfynu cais a wneir neu a atgyfeirir o dan adran 6(5) (pennu telerau tenantiaeth gyfnodol statudol), 13(6) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) neu 22(7) (atgyfeirio rhenti gormodol i’r tribiwnlys priodol) o Ddeddf 1988 (pa un a gynhelir y cais, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(3Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Gorchymyn 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oedd yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â phenderfyniad sy’n dod o fewn erthygl 2 o Orchymyn 1988 (pa un a gynhelir y penderfyniad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(4Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997(8) yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, i’r graddau y maent yn rhagnodi—

(a)y ffurflen i’r tenant wneud cais o dan adran 13(4)(a) o Ddeddf 1988 (Ffurflen 5), a

(b)y ffurflen ar gyfer cais o dan adran 6(3)(a)(9) o Ddeddf 1988 (pennu telerau tenantiaeth gyfnodol statudol) (Ffurflen 2).

(5Mae amrywio’r rhent o dan adran 13, 14 neu 22 o Ddeddf 1988 sy’n digwydd ar ôl y diwrnod penodedig yn rhinwedd yr arbedion a wneir gan y rheoliad hwn i’w drin fel amrywio’r rhent o dan adran 104 neu 123 o Ddeddf 2016 (amrywio’r rhent) at ddiben paragraff 14(2) o Atodlen 12 (amrywio) i Ddeddf 2016.

[F1(6) Mae paragraffau 15(1) a 15(1A) o Atodlen 12 i Ddeddf 2016 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau rhent sy’n digwydd ar ôl y diwrnod penodedig yn rhinwedd yr arbedion a wneir gan y rheoliad hwn, fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 10 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

(1)

Diwygiwyd adran 13(4) gan erthygl 6(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 82 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(2)

Diwygiwyd adran 14 gan adran 104 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 2(2) o Atodlen 8 iddi, erthygl 6(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 83 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo ac erthygl 2(1) o Orchymyn Cyllid Llywodraeth Leol (Tai) (Diwygiadau Canlyniadol) 1993 (O.S. 1993/651) a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddo ac fe’i haddaswyd gan adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraffau 6 ac 11 o Atodlen 10 iddi.

(3)

Diwygiwyd adran 22 gan adrannau 100, 104 a 227 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 2 o Atodlen 8 a Rhan 4 o Atodlen 19 iddi ac erthygl 6 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 86 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(4)

Diwygiwyd O.S. 1971/1065 gan reoliad 3 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1980 (O.S. 1980/1699), rheoliad 4 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1981 (O.S. 1981/1783), rheoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1990 (O.S. 1990/427), rheoliad 2(a) o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1993 (O.S. 1993/653), rheoliad 9 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1854), rheoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/3007), rheoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1988 (O.S. 1988/2200), erthygl 6(1) o Orchymyn Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2008 (O.S. 2008/2683) a pharagraff 2 o Atodlen 1 iddo ac erthygl 6(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo. Caiff O.S. 1971/1065 ei ddiwygio ymhellach gan reoliad 2 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (O.S. 2022/907 (Cy. 198)) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddynt, a chan reoliad 8 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/781 (Cy. 170)).

(5)

Diwygiwyd adran 6 gan erthygl 6(2) oOrchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 81 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(6)

Diwygiwyd adran 13 gan erthygl 2 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Tenantiaethau Cyfnodol Sicr) (Codi’r Rhent) 2003 (O.S. 2003/259) ac erthygl 6(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 82 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(7)

Diwygiwyd adran 22 gan adrannau 100, 104 a 227 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 2 o Atodlen 8 a Rhan 4 o Atodlen 19 iddi ac erthygl 6(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 86 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(8)

Diwygiwyd O.S. 1997/194 gan reoliad 2 o Reoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/307 (Cy. 46)) a’r Atodlen iddynt, erthygl 6(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 13 i 17 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo, erthygl 3(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd (Deddf Cartrefi Symudol 2013 a Diwygiadau Amrywiol) 2014 (O.S. 2014/1900) a pharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 iddo.

(9)

Diwygiwyd adran 6(3) gan erthygl 6 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 81(a) o Ran 1 o Atodlen 1 iddo. Mae diwygiadau eraill i adran 6 nad yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.