- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
17.—(1) At ddiben pennu lwfans tai lleol o dan erthygl 4B(1) o Orchymyn 1997 ac Atodlen 3B(2) (pennu ardaloedd marchnad rentu eang a phennu lwfans tai lleol) iddo, am ba hyd bynnag y mae’n angenrheidiol cyfeirio at renti sy’n daladwy cyn y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf 2016 i rym, bernir mai gwerth y rhent a fyddai, ym marn y swyddog rhenti, wedi bod yn daladwy am gategori o annedd, a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 3B i Orchymyn 1997, yng Nghymru a osodir o dan denantiaeth sicr, yw’r rhent a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r categori perthnasol o annedd a osodir o dan gontract diogel neu safonol perthnasol.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “contract diogel neu safonol perthnasol” yw contract diogel neu safonol nad yw’r landlord yn bodloni amod y landlord yn adran 80(3) o Ddeddf 1985 mewn perthynas ag ef.
Mewnosodwyd erthygl 4B gan erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Lwfans Tai Lleol) (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/2398), rheoliad 5 o Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (O.S. 2006/217) a pharagraff 11 o Atodlen 2 iddynt, erthyglau 3 i 6 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/2871), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2008 (O.S. 2008/587), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2836), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/646), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2013 (O.S. 2013/1544), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2016 (O.S. 2016/1179), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/27), rheoliad 4 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Coronafeirws) (Mesurau Pellach) 2020 (O.S. 2020/371) ac erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio ac Addasu) 2021 (O.S. 2021/1380).
Mewnosodwyd Atodlen 3B gan erthyglau 3 a 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/2871) ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/3156), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2836), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/646), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2013 (O.S. 2013/2978), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2015 (O.S. 2015/1753), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2016 (O.S. 2016/1179), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/27), rheoliad 4 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Coronafeirws) (Mesurau Pellach) 2020 (O.S. 2020/371) a rheoliad 2 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (O.S. 2022/907 (Cy. 198)) a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddynt.
Diwygiwyd adran 80 gan adran 24(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p. 63) a pharagraff 26 o Ran 2 o Atodlen 5 iddi, adrannau 83(2) a 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) ac Atodlen 18 iddi, adrannau 140 a 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) a pharagraff 5 o Atodlen 16 a Rhan 4 o Atodlen 18 iddi, adrannau 195 a 222 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a pharagraffau 10 a 13 o Atodlen 19 a pharagraffau 9 ac 11 o Atodlen 22 iddi, erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Darpariaethau Canlyniadol) 1996 (O.S. 1996/2325) a pharagraff 14 o Atodlen 2 iddo, erthygl 4 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2008 (O.S. 2008/3002) a pharagraffau 2 a 10 o Atodlen 1 iddo ac erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2010 (O.S. 2010/866) a pharagraffau 15 a 19 o Atodlen 2 iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: