Tenantiaethau diogelLL+C
2.—(1) Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—
(a)adran 83(1)() (achosion adennill meddiant neu derfynu: gofynion hysbysu cyffredinol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig;
(b)adran 83ZA(2)() (gofynion hysbysu mewn perthynas ag achos adennill meddiant ar sail absoliwt oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;
(c)adran 83A(1)() (gofynion ychwanegol mewn perthynas ag achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);
(d)adran 83A(2)(), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);
(e)adran 83A(3)(), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;
(f)adran 83A(4)() a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a ychwanegir Sail 2A o Atodlen 2 i Ddeddf 1985 at yr hysbysiad hwnnw cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);
(g)adran 83A(5)(), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;
(h)adran 84(1)() (seiliau meddiant a gorchmynion adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;
(i)adran 84(2)(), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;
(j)adran 84(3)(), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;
(k)adran 84(4)(), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83(3) o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;
(l)adran 84A(1) i (9)() (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;
(m)adran 85() (disgresiwn estynedig y llys mewn achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;
(n)adran 85ZA(1) a (2)() (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant ar sail absoliwt am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;
(o)adran 85ZA(3) i (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);
(p)adran 85A() (achosion adennill meddiant ar seiliau nad ydynt yn rhai absoliwt: ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;
(q)Atodlen 2() (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;
(r)Atodlen 2A() (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol: troseddau difrifol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.
(2) Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022—
(a)mae adran 83(3)(b) ac 83(4)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “twelve months after the date so specified, or six months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “twelve months after the date so specified”,
(b)mae adran 83ZA(9)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “12 months after the date so specified, or 6 months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “12 months after the date so specified”, ac
(c)mae cyfeiriad at adeg pan fo’r hysbysiad yn parhau i fod mewn grym yn adran 83A(1) a (2) o Ddeddf 1985 (fel y’i harbedir gan baragraff (1)(c) a (d) o’r rheoliad hwn) i’w ddarllen yn unol â hynny.
(3) Mae paragraff (2) o’r rheoliad hwn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.
(4) Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys yn unol ag adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.
(5) Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022 a Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Sail Absoliwt ar gyfer Meddiannu am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) (Y Weithdrefn Adolygu) (Cymru) 2014() yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 85ZA o Ddeddf 1985 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).
(6) Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 82(2)() o Ddeddf 1985 (diogelwch deiliadaeth) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.
(7) Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
(8) Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo yn cael effaith pa un a oedd y llys wedi hepgor y gofyniad i gyflwyno hysbysiad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig.