RHAN 1LL+CAchosion Adennill Meddiant

Tenantiaethau israddLL+C

5.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 143D(2)(1) (achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E(2) cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 143E(1) a (4) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig;

(c)adran 143F(1)(3) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig;

(d)adran 143F(2), (5) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad, neu pa un a gynhaliwyd yr adolygiad, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

(e)adran 143G(4) (effaith achos adennill meddiant), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ar gyfer adennill meddiant o dŷ annedd a osodwyd o dan denantiaeth isradd a ddaeth i ben cyn y diwrnod hwnnw yn unol â’r adran honno.

(2Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 143D(2) o Ddeddf 1996 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(3Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 143D(1) ac (1A) o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan yr adran honno cyn y diwrnod penodedig.

(4Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2005(5) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan adran 143F o Ddeddf 1996 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiadau, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(5Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant o dan adran 143E o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

(b)ar ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y caniateir dechrau achos ar ei ôl yn unol ag adran 143E(2)(c) o Ddeddf 1996,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

(6Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

(1)

Mewnosodwyd adran 143D gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac fe’i diwygiwyd gan adrannau 299 a 321 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 10 a 13 o Ran 1 o Atodlen 11 ac Atodlen 16 iddi.

(2)

Mewnosodwyd adran 143E gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.

(3)

Mewnosodwyd adran 143F gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.

(4)

Mewnosodwyd adran 143G gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.