xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Blaendaliadau tenantiaeth

Darpariaethau trosiannol: cynlluniau blaendal

8.  Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn cael effaith mewn perthynas â blaendal tenantiaeth a dalwyd yn unol â Phennod 4 o Ran 6(1) o Ddeddf 2004 (cynlluniau blaendal tenantiaeth) cyn y diwrnod penodedig mewn perthynas â thenantiaeth a ddaeth yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod hwnnw, fel y maent yn gymwys i flaendal a dalwyd gan, neu ar ran, deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth—

(a)adrannau 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) a 46(2) (cynlluniau blaendal: darpariaeth bellach);

(b)Atodlen 5 (cynlluniau blaendal: darpariaeth bellach);

(c)paragraff 4 o Atodlen 9A(3) (contractau safonol: cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, o dan adran 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord).

(1)

Diwygiwyd Pennod 4 o Ran 6 gan adran 128 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22), adrannau 184 a 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a Rhan 30 o Atodlen 25 iddi, adrannau 31 a 32 o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20) ac adran 17 o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22) a pharagraff 52 o Ran 3 o Atodlen 9 iddi.

(2)

Diwygiwyd adran 46 gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 6 iddi.

(3)

Mewnosodwyd Atodlen 9A gan adran 6 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) ac Atodlen 2 iddi ac fe’i diwygiwyd gan reoliadau 3, 4 a 5 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 (O.S. 2022/143 (Cy. 46)).