Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn ac maent yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) (“y Ddeddf”).

Mae Rheoliad 2(a) yn dwyn i rym, ar 13 Rhagfyr 2022, Ran 4 o Atodlen 7 i’r Ddeddf. Mae Rheoliad 2(b) yn dwyn i rym, ar 13 Rhagfyr 2022, adran 52 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.

O ganlyniad i’r ddarpariaeth yn Rhan 4 o Atodlen 5 i’r Ddeddf, mae Rhan 4 o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau canlyniadol yng Nghymru mewn perthynas â darpariaethau safonau marchnata a dosbarthu carcasau yn Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 gan sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (“y Rheoliad CMO”).