2022 Rhif 1204 (Cy. 248) (C. 94)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 57(3)(c) o Ddeddf Amaethyddiaeth 20201, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 13 Rhagfyr 20222

Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i rym ar 13 Rhagfyr 2022—

a

Rhan 4 o Atodlen 7 (Y Rheoliad CMO: diwygiadau canlyniadol), a

b

adran 52 (diwygiadau canlyniadol), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.

Lesley GriffithsY Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn ac maent yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) (“y Ddeddf”).

Mae Rheoliad 2(a) yn dwyn i rym, ar 13 Rhagfyr 2022, Ran 4 o Atodlen 7 i’r Ddeddf. Mae Rheoliad 2(b) yn dwyn i rym, ar 13 Rhagfyr 2022, adran 52 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.

O ganlyniad i’r ddarpariaeth yn Rhan 4 o Atodlen 5 i’r Ddeddf, mae Rhan 4 o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau canlyniadol yng Nghymru mewn perthynas â darpariaethau safonau marchnata a dosbarthu carcasau yn Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 gan sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (“y Rheoliad CMO”).

NODYN AM Y RHEOLIADAU CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Reoliadau Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Rheoliadau hyn:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 46 (yn rhannol)

1 Ionawr 2021

O.S. 2020/1648 (Cy. 346)(C. 51)

Paragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5

1 Ionawr 2021

O.S. 2020/1648 (Cy. 346)(C. 51)