2022 Rhif 1207 (Cy. 249)
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2023.
3
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 19892.
Diwygio Atodlen 2 i’r prif Reoliadau2
Yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (gwledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol mewn cysylltiad â hwy), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“Bailiwick of Guernsey”; a
“Malta”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)