Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022

RHAN 1

At ddibenion gwarchod, gwella neu adfer yr amgylchedd morol a dyfrol

1.  Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.

2.  Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.

3.  Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.

4.  Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.

5.  Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.

6.  Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.

7.  Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.

8.  Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.

9.  Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.

10.  Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.

11.  Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.

12.  Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.